Ceffylau
Gwybodaeth ynghylch Dogfennau Adnabod Ceffylau (Pasborts Ceffylau) a phori anghyfreithlon.
Cyflwynwyd nifer o reolau’n ymwneud â Phasborts Ceffylau o dan reoleiddiad yr UE ar 1 Gorffennaf 2009.
- Bydd rhaid i bob perchennog sy’n gwneud cais am basbort am y tro cyntaf sicrhau bod microsglodyn yn y ceffyl
- Dim ond perchnogion gall wneud cais am basbort
- Dim ond milfeddyg sydd â’r hawl i roi microsglodyn yn yr anifail
- Rhaid i basbort gael ei gludo gyda’r anifail ar bob taith, a bod ar gael i’w archwilio bob amser
- • Rhaid eithrio pob ceffyl o’r gadwyn fwyd dynol os oes ganddo bresgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau heb eu hawdurdodi ar gyfer anifeiliaid sydd yn y gadwyn fwyd, yn cynnwys BUTE (Phenylbutazone)
Yn ogystal:
- Rhaid i berchnogion neu geidwaid sy’n gyfrifol am y ceffyl ddangos y pasbort heb oedi yn achos archwiliad
- Bydd ceffylau sy’n derbyn pasbort cyntaf y tu hwnt i’r dyddiad terfynol yn cael eu heithrio o’r gadwyn fwyd
- Pan fo ceffyl yn marw, mae gofyn i’r perchennog ddychwelyd y pasbort at yr awdurdod a’i roddodd o fewn 30 diwrnod i’r farwolaeth
Reoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2019
- Bydd y rheol flaenorol, nad oedd angen microsglodyn ar geffylau a aned cyn 2009 ond bod arnynt angen pasbort, yn dod i ben ym mis Chwefror 2020. Mae’r gofyniad newydd yn nodi bod rhaid i bob ceffyl a’u hybridau a oedd yn dod dan y cymal blaenorol hwn gael microsglodyn erbyn y dyddiad uchod.
- Rhaid i unrhyw un sy’n prynu ceffyl neu hybrid anfon y pasbort i'r awdurdod pasbort perthnasol o fewn 30 diwrnod i'w ddiweddaru gyda'i enw. Rhaid bod ganddynt hefyd dderbynneb fel prawf prynu a gallu dangos hwn yn ogystal â'r cyfeiriad PIO ar gais Swyddog Awdurdod Lleol a rymusir dan y ddeddfwriaeth.
- Rhaid i bob ceffyl a’u hybridau sy’n 6 mis oed erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn y’u ganed (pa bynnag un ddaw gyntaf) gael microsglodyn a phasbort.
- NI ddylid gwerthu ceffylau a’u hybridau heb basbort dilys.
- Dyddiad cau microsglodyn ceffylau: 12 Chwefror 2021 Daeth y Rheoliadau Adnabod Ceffylau i rym ym mis Chwefror 2019. Maent yn nodi cyfrifoldebau ar gyfer ceidwaid ceffylau, perchnogion neu fridwyr. Maent hefyd yn nodi gofyniad i nodi ceffylau, merlod, asynnod neu anifeiliaid cysylltiedig â microsglodyn, yn ogystal â phasbort. Os oes angen i chi drafod y dyddiad cau hwn, cysylltwch â ni ar 0300 123 6696
Pori anghyfreithlon
Pori anghyfreithlon (fly grazing) ydy’r term sy wedi cael ei fathu i ddisgrifio gweithredoedd perchnogion anghyfrifol ceffylau, sy’n gadael i’w hanifeiliaid bori ar dir lle nad ydynt wedi cael caniatâd gan y tirfeddiannwr, yn fwriadol neu drwy esgeulustod.
Mae Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 yn rhoi pwerau i’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir gipio a chorlannu ceffylau a phonis sy’n pori’n anghyfreithlon, yn crwydro neu wedi eu gadael yn amddifad.
Dwedu wrthon ni am Bori Anghyfreithlon a Cheffylau ar Grwydr neu wedi eu Gadael
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir os oes un o’r materion yma’n effeithio arnoch chi, yn eich cymuned neu ar eich tir:
- Cysylltu â Ni
- Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
Arweiniad