Troseddau Eiddo Deallusol / nwyddau ffug
Copi ffug o’r cynnyrch go iawn ydy nwyddau ffug, ac yn aml, maen nhw’n cael eu cynhyrchu â’r bwriad o fanteisio ar werth cynhenid uwch y cynnyrch sy’n cael ei gopïo.
Mae’r gair ‘ffug’ yn aml yn disgrifio copïau eilradd o nwyddau fel dillad, bagiau llaw, esgidiau, meddyginiaethau, watshiau, nwyddau electronig, meddalwedd, teganau a ffilmiau. Mae nwyddau ffug fel arfer yn arddangos logos a brandiau ffug, ac mae ganddynt enw gwael am fod o safon isel, yn anniogel ac weithiau’n cynnwys cemegolion gwenwynig.
Weithiau, mae pobl yn credu bod cynhyrchu Nwyddau Ffug a dwyn Eiddo Deallusol yn droseddau nad sy’n gwneud niwed uniongyrchol. Ond mae hyn yn bell o fod yn wir, gan fod nwyddau ffug yn medru niweidio’ch waled, yr economi leol ac o bosibl, achosi anafiadau.
Mae’r elw anferth sy’n cael ei wneud o ddwyn eiddo deallusol yn cael ei ddefnyddio i ariannu troseddau cyfundrefnol difrifol eraill, megis smyglo pobl, cyffuriau, gynnau, pornograffi plant a hyd yn oed terfysgaeth.
Gwirio a ydy nwyddau’n ffug
Edrychwch yn ofalus ar unrhyw eitem rydych chi’n bwriadu ei brynu. Mae label neu becynnu o ansawdd gwael ar bersawr a nwyddau cosmetig yn medru adlewyrchu’r ffaith nad ydy’r cynnyrch y tu mewn yn rhai go iawn. Os ydych chi’n prynu crynoddisgiau neu DVDs, byddwch yn wyliadwrus os ydy’r clawr neu’r cerdyn y tu mewn yn denau ac yn dila, neu os nad ydy enw’r artist neu’r ffilm ar y disg ei hun, neu os nad ydy’r disg wedi’i lapio mewn seloffen. Copïau ydy crynoddisgiau sy ddim yn lliw arian. Hefyd, cadwch lygad am ddiffyg hologram diogelwch a labelu wedi’u llungopïo.
Chwiliwch am gynnyrch go iawn gan siopau wedi’u cymeradwyo gan berchnogion brandiau drwy fynd i wefan Brand-i.
Dweud wrthon ni
Gallwch chi ddweud wrth y Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor i Bawb ar-lein neu dros y ffôn:
03454 040505
Adrodd Ar-lein
Arweiniad