Podlediadau
Rydym am wneud gwybodaeth a chyngor ar yr holl faterion rheoleiddio mor hawdd â phosibl, a dyna pam rydym wedi lansio ein gwasanaeth Podcast newydd
Ein nod yw cynnal deialogau a thrafodaethau rhwng rheoleiddwyr, busnesau ac aelodau'r cyhoedd ar faterion sy'n ymwneud ag Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Thrwyddedu.
Gallwch wrando ar bob un o'r penodau trwy glicio ar y ddolen berthnasol isod.
Cynhyrchir ein Podlediadau gan y bobl dda yn Bro Radio ac maent yn ffordd wych o gael mewnwelediadau ar bethau sydd o bwys i fusnesau ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg - o alergenau a hylendid bwyd i iechyd, diogelwch a diogelu defnyddwyr.
Bro Radio yw'r orsaf Radio Cymunedol leol sy'n canolbwyntio ar Fro Morgannwg. Mae'n hyrwyddo teimlad o hunaniaeth gymdeithasol a balchder cymunedol ymhlith y cymunedau trefol, gwledig ac arfordirol sy'n bodoli yn y sir. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Bro Radio ar y Podlediadau hyn i obeithio cyrraedd cynulleidfa eang sy'n awyddus i ddysgu am faterion rheoleiddio.
Rydym hefyd yn gyffrous i gyhoeddi bod ein Podlediadau Gofynnwch i'r Rheoleiddiwr ar gael i wrando arnynt ar Spotify. Cliciwch yma i wrando ar bob pennod.
Cyfres 4
Mae Cyfres 4 yn ‘Dechrau gyda chlec’ wrth i ni ganolbwyntio ar dân gwyllt yn ein pennod gyntaf. Bydd Kate Palmer o Wasanaethau Rheoliadol a Rennir a Graeme Knox o Fwrdeistref Havering yn Llundain yn ymuno â Jemma i drafod canlyniadau ofnadwy gwerthu tân gwyllt yn anghyfreithlon.
Maent yn rhoi eu cyngor a'u hawgrymiadau gorau ar sut i gydymffurfio â'r gyfraith a phwysigrwydd rheoleiddwyr, busnesau a'r gymuned, i gyd yn cydweithio i gadw pawb yn ddiogel.
Cyngor a chymorth busnes:
Canllawiau Cydymaith Busnes:
- Tân gwyllt: cyfyngiadau oedran | Cydymaith Busnes
- Tân gwyllt: storio a chyflenwi | Cydymaith Busnes
Adnoddau Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch:
Ffrwydron HSE - Tân Gwyllt
Storio a gwerthu tân gwyllt yn ddiogel (hse.gov.uk)
Tân gwyllt mewn siopau: Rhestr wirio asesiad risg manwerthwyr (hse.gov.uk) Rheoliadau Ffrwydron 2014 - L150 (hse.gov.uk)
Tân gwyllt: y gyfraith - GOV.UK
Cyngor Cymdeithas Tân Gwyllt Prydain y DU:
Cyngor a chymorth i ddefnyddwyr:Canllawiau'r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau: Diogelwch tân gwyllt - RoSPA
Canolfan gwybodaeth myfyrwyr Caerdydd ar gyfer cyngor byw yn y gymuned.
Dilynwch Llety Caerdydd ar gyfryngau cymdeithasol:• Instagram: • Facebook: • X:
Ap Caerdydd Gov
Mae Ap Caerdydd Gov yn arf gwych i'ch cysylltu â gwasanaethau'r cyngor. Gallwch chi
- Wirio eich casgliadau ailgylchu a gwastraff a gosodwch nodiadau atgoffa casgliadau
- Wneud cais am drwydded barcio
- Adrodd ar ystod eang o faterion
- A llawer mwy!
Apple App Store / Google Play
Edrychwch ar dudalennau gwybodaeth sbwriel ac ailgylchu’r Cyngor i ddarganfod sut mae sbwriel ac ailgylchu yn cael ei gasglu ble rydych chi’n byw. Gallwch ddarganfod pa gynwysyddion sydd angen i chi eu defnyddio, sut i ddidoli eich sbwriel a'ch ailgylchu a'ch diwrnod casglu.
I’ch helpu i grwydro a theithio o amgylch Caerdydd, ewch i wefan Cadw Caerdydd i Symud i gael gwybod am wasanaethau bws, trên a thacsi, llogi beiciau a chynlluniau rhannu ceir yn ogystal â dolenni i lwybrau cerdded a beicio ar draws y ddinas.
Gall myfyrwyr gofrestru i bleidleisio yn eu cyfeiriad cartref a'u cyfeiriad yn ystod y tymor. Mae'n gyflym ac yn hawdd a gall hyd yn oed roi hwb i'ch sgôr credyd.
Os ydych yn rhentu eiddo, eich landlord sy'n gyfrifol am gydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol gan gynnwys safonau diogelwch, trwyddedu a gofynion cofrestru. Os oes gennych broblemau nad ydynt wedi'u datrys gan eich landlord, gallwch roi gwybod i'r tîm Gorfodi Tai am y rhain. Mae materion cyffredin yn cynnwys:
Atgyweiriadau i eiddo ar rent
- Diogelwch o fewn eiddo ar rent
- Diogelwch o fewn Tai Amlfeddiannaeth
- Aflonyddu gan eich landlord
- Dadfeddiant anghyfreithlon
Gall sŵn gael effaith ar eich iechyd a’ch lles ac eraill, felly mae’n bwysig cymryd camau i reoli lefelau sŵn fel y gallwn gynnal cymunedau hapus ac iach.Os yw sŵn fel cerddoriaeth uchel, cŵn yn cyfarth, sŵn adeiladu neu larymau yn amharu ar eich bywyd bob dydd, gallwch adrodd hyn i ni.
Consortiwm Manwerthu Prydain
Ymgynghoriad Adolygiad Diogelwch Cynnyrch: Rheoleiddio doethach: adolygiad diogelwch cynnyrch y DU
Adolygiad diogelwch tân o ddolen ddodrefn clustogog domestig: Rheoliad Doethach: Diogelwch tân dodrefn clustogog domestig
Llety ymwelwyr yng Nghymru: Cynllun trwyddedu ar gyfer llety ymwelwyr yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Plastigau untro: Deddf Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) | LLYW.CYMRU
Prif Awdurdod gyda ni
Pennod 12 - Trwyddedu Gorfodol ar gyfer Triniaethau Arbennig yng Nghymru
Pennod 9 - Wythnos Safonau Masnach Cymru (Hydref 2022)
Pennod 8 - Prynwch efo Hyder (Medi 2022)
Pennod 7 - Prosiect Hyb Bwyd Penarth a bwyd cymunedol (Mehefin 2022)
Pennod 6 - Gweithio gyda busnesau: Cyflwyniad (Mai 2022)
Pennod 5 - Iechyd a Maeth (Ionawr 2022)
Pennod 4 - Bwyd y Nadolig (Rhagfyr 2021)
Pennod 3 - Wythnos Genedlaethol Diogelu (Tachwedd 2021)
Pennod 2 - Calan Gaeaf (Hydref 2021)
Pennod 1 - Gofynnwch i'r Rheoleiddiwr - Alergenau (Awst 2021)
Gadewch inni wybod beth hoffech chi o'n Podlediadau
Rydym yn annog busnesau i gysylltu â ni gydag unrhyw bynciau yr hoffech i ni ymdrin â nhw ac unrhyw gwestiynau sydd gennych ar gyfer pynciau podlediad sydd ar ddod. Anfonwch e-bost atom, a byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.