Cyngor i Ddefnyddwyr
Bob tro y byddwn ni’n prynu nwyddau a/neu wasanaethu rydym yn awtomatig yn cael hawliau cyfreithiol, a cyfeirir atynt fel ‘hawliau statudol’. Ystyr hyn yw bod rhaid i fasnachwyr ufuddhau i rwymedigaethau cyfreithiol penodol pan fyddwn ni’n llunio contract gyda nhw.
Beth yw contract?
Nid oes rhaid i gontract cyfreithiol fod yn gontract ysgrifenedig. Er enghraifft, pan fyddwch yn prynu bar siocled mae contract wedi’i lunio. Y rheswm am hyn yw bod y masnachwr wedi rhoi’r nwyddau ar werth am bris penodol a thrwy fynd â’r nwyddau at y til a thalu amdanyn nhw rydych chi wedi derbyn y pris ac wedi cytuno i brynu’r nwyddau oedd ar werth.
Nwyddau
Wrth roi’r nwyddau ar werth, mae’n rhaid i’r masnachwr sicrhau nad ydynt yn ddiffygiol, eu bod yn ddiogel, yn addas at eu diben penodol a chyffredinol ac mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio ag unrhyw ddisgrifiad cysylltiedig. Disgwylir i rai nwyddau fod yn eithaf gwydn a gall pris y nwyddau ddylanwadu ar y disgwyliad o ran ansawdd. Er enghraifft, ni fyddai disgwyl i bâr o esgidiau a werthir am £5 fod o’r un ansawdd â phâr a werthir am £100.
Gwasanaethau
Yn wahanol i brynu nwyddau, disgwylir y byddwch yn cael gwaith papur pan fyddwch yn cytuno i wasanaethau gael ei gyflawni. Gwaith adeiladu, er enghraifft. Mae’n rhaid i’r gwaith papur a gyflwynir nodi enw’r masnachwyr (h.y. enw, cyfeiriad, rhif ffôn), manylion y gwaith y cytunwyd arno, y pris y cytunwyd arno a manylion eich cyfnod newid eich meddwl o 14 diwrnod (h.y. eich Hawliau Canslo).
Eich hawliau statudol o ran gwasanaethau yw y disgwylir i’r masnachwr allu cyflawni’r gwaith gyda’r gofal a’r gallu rhesymol a ddisgwylir gan berson sydd wedi cymhwyso yn y maes arbenigedd hwnnw. Er enghraifft, byddech yn disgwyl i osodwr ffenestri allu gosod ffenestri i safon lle nad oes unrhyw broblemau gyda’r gwaith.
Hefyd, os na chytunwyd ar amserlen benodol disgwylir y caiff y gwaith ei wneud o fewn cyfnod o amser rhesymol. Er enghraifft, oni bai bod amgylchiadau esgusodol y tu hwnt i reolaeth y masnachwr, nid yw’n dderbyniol cyflawni gwaith dros dri mis os mai’r cyfnod cwblhau cyffredinol yw tair wythnos.Os yw deunyddiau wedi’u cynnwys fel rhan o’r gwasanaeth yna mae’r un hawliau statudol mewn perthynas â nwyddau’n berthnasol.
Hawliau Canslo
Os cytunir ar gontract ar gyfer gwasanaeth y tu allan i safle masnachu yna mae’n rhaid i’r masnachwr gyflwyno manylion ysgrifenedig am eich hawl i ganslo’r trefniant cyn pen 14 diwrnod. Nid yw’r hawliau hyn yn berthnasol os yw’r masnachwyr yn ymweld â’ch cartref i asesu beth sydd ei angen ac yna’n anfon dyfynbris yn y post neu dros e-bost yr ydych chi’n wedyn ei dderbyn un ai drwy ateb yn ysgrifenedig neu dros y ffôn. Y rheswm am hyn yw yr ystyrir y byddech wedi cael amser i wneud eich dewis.
Pan fo sefyllfa yn gofyn am hawliau canslo mae gennych yr hawl i ildio eich hawl i ganslo os ydych am i’r gwaith ddechrau ar unwaith ond, eto, mae’n rhaid i’r masnachwr gyflwyno’r manylion dan sylw yn ysgrifenedig i chi.Mae’n rhaid cyflwyno'r wybodaeth am eich hawl i ganslo mewn fformat cyfreithiol penodol yn unol â’r enghraifft isod:
Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth
Mae Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn darparu cyngor i ddefnyddwyr. Gallwch chi anfon ymholiad ar-lein neu drwy ffonio:
0808 223 1144
Gwneud ymholiad ar-lein
Beth allaf i wneud os aiff pethau o’i le?
Nwyddau – os bydd diffyg ar y nwyddau yn ystod y chwe mis cyntaf ar ôl y dyddiad prynu neu ddanfon yna mae’r gyfraith yn datgan nad oedd y nwyddau a gyflenwyd yn debygol o fod wedi cydymffurfio â’r contract. Ystyr hyn yw bod y baich o brofi eu bod yn cydymffurfio ar ysgwyddau’r masnachwr. Os bydd yn diffyg ar y nwyddau ar ôl y chwe mis cyntaf yna mae’r baich profi ar ein hysgwyddau ni.
Ystyr hyn yw y byddai’n rhaid i ni gael tystiolaeth ysgrifenedig gan berson annibynnol, cymwys, nad yw’n perthyn dim i ni, i brofi bod y nwyddau a gyflenwyd yn ddiffygiol o ganlyniad i ddiffyg. Mae’r un rheol yn gyffredinol yn berthnasol i addasrwydd at y diben. Os nad yw’r nwyddau ‘yn unol â’r hyn a ddisgrifiwyd’ yna mae’n bosib na fydd angen adroddiad annibynnol os ydyw’r camddisgrifiad yn hawdd ei brofi.
Gwasanaethau - os cyfyd anghydfod ynglŷn â gwaith a gyflawnwyd yna mai’r bach profi bob amser ar ein hysgwyddau ni. Ystyr hyn yn bod rhaid i ni gael adroddiad annibynnol gan berson cymwys i gadarnhau p’un ai a yw’r gwaith yn is na’r safon neu ddiangen neu anghyflawn. Mae’n well gan y llysoedd gael adroddiad gan Syrfëwr Siartredig ond i gael rhyw syniad cychwynnol p’un ai a oes problem neu beidio, mae’n bosib y byddech am ystyried barn masnachwyr cymwys eraill.
Beth os ydw i’n newid fy meddwl am rywbeth a brynais mewn siop?
Os ydych yn prynu rhywbeth mewn siop, yn mynd ag ef adref ac yn penderfynu ei ddychwelyd oherwydd eich bod wedi newid eich meddwl neu os ydyw’n anrheg ddieisiau yna rydych yn gwbl ddibynnol ar bolisi dychwelyd nwyddau’r siop. Nid oes rhaid i siop dderbyn unrhyw nwyddau di-eisiau yn ôl ond mae llawer yn cynnig polisi dychwelyd nwyddau am amser cyfyngedig er mwyn sicrhau perthynas dda gyda’u cwsmeriaid. Nid oes gennym unrhyw hawl cyfreithiol i ddychwelyd nwyddau di-eisiau a brynwyd ar safle masnachu ac rydym yn ddibynnol ar ewyllys da y siop.
Beth os ydw i’n newid fy meddwl am rywbeth a brynais ar y rhyngrwyd neu drwy’r post?
Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r gyfraith yn rhoi cyfnod canslo 14 diwrnod ar gyfer nwyddau a brynwyd trwy ‘ddulliau o bell’. Hynny yw, os ydym wedi eu prynu nhw ar y rhyngrwyd, neu dros y ffôn neu drwy’r post. Y rheswm am hyn yw na fu unrhyw gyfle i fwrw golwg ar y nwyddau cyn eu prynu, yn wahanol i pan fyddwn yn mynd i mewn i siop i brynu rhywbeth. Dylech nodi bod gan y masnachwr yr hawl i wneud i chi dalu am ddychwelyd y nwyddau drwy’r post os yw hynny wedi’i nodi yn eu telerau ac amodau.
Sut ydw i’n gwneud cwyn?
Yn y lle cyntaf, efallai y bydd yn gyflymach delio â phroblem dros y ffôn os ydych yn wynebu anawsterau yna y peth doethaf i’w wneud cyflwyno cwyn ffurfiol yn ysgrifenedig. Os ydych yn anfon llythyr yn y post yna dylech ei anfon drwy ddosbarthiad cofnodedig fel y gallwch brofi ei fod wedi’i dderbyn. Os ydych yn anfon e-bost yna defnyddiwch yr opsiynau sy’n cadarnhau bod yr e-bost wedi’i ddanfon ac wedi’i ddarllen, gan y byddwch yn cael eich hysbysu dros e-bost unwaith y caiff eich e-bost ei ddanfon a’i ddarllen.
Sut ydw i’n ysgrifennu llythyr?
Nid yw pobl yn ysgrifennu llythyrau cwyno yn aml iawn ac felly ni fyddan nhw’n gwybod sut i wneud hynny. Dylai’r fath lythyr lynu at y ffeithiau yn unig a dylid osgoi cynnwys manylion amherthnasol.Y patrwm safonol ar gyfer ysgrifennu llythyr yw:
1. Nodwch ba nwyddau a brynwyd gennych gan gynnwys y pris, y dyddiad y’u prynwyd a’r lleoliad. Os mai contract gwasanaeth ydyw, disgrifiwch natur y gwaith a’r pris.
2. Disgrifiwch beth wnaethoch chi i geisio sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys. E.e. ydych chi wedi ffonio’r masnachwr? A gawsoch chi ateb? A wnaed unrhyw addewidion i ddatrys y mater nas digwyddodd?
3. Nodwch beth ydych chi eisiau ei weld yn digwydd i ddatrys y mater (e.e. atgyweirio, nwyddau newydd, costau gwaith atgyweirio);
4. Gofynnwch iddyn nhw ymateb cyn pen 14 diwrnod.Pan fydd cwyn gennym mae’n hawdd ildio i demtasiwn a gadael i emosiwn ddylanwadu ar ein hysgrifennu.
Beth os nad oes modd i mi ddatrys y broblem?
Os bydd y masnachwr yng gwrthod datrys y broblem neu’n dewis peidio ymateb yna mae’n bosib y byddwch am ystyried cychwyn gweithrediadau hawliadau bychan yn y llys sirol (y cyfeirir ato hefyd fel y ‘llys hawliadau bach’). Mae’r broses hawliadau wedi’i chanoli ac mae’n rhatach i wneud hawliad ar-lein drwy’r ddolen hon:
Dylech nodi nad yw’r broses hawliadau yn broses gyflym ac mae’n rhaid i chi sicrhau eich holl waith papur ategol mewn trefn ynghyd ag unrhyw adroddiadau y byddai eu hangen i brofi atebolrwydd y masnachwr. Gall unrhyw wneud hawliad ond y parti sydd â’r ddadl fwyaf argyhoeddiadol sy’n debygol o ennill.
Mae’n rhaid i chi hefyd ystyried p’un ai a yw gwneud hawliad yn werth yr ymdrech os nad ydych yn gwbl sicr bod gan y masnachwr yr arian i’ch ad-dalu. Er enghraifft, mae’n bosib na fydd gan unig fasnachwr nad yw’n berchen ar ei gartref ei hun asedau digonol i’w hatafael gan feilïod. Ar ben hynny, os nad oes gennych gyfeiriad ar gyfer y masnachwr ni fydd modd i chi wneud hawliad. Nid yw’n werth taflu arian da ar ôl arian drwg. Y terfyn ar gyfer hawliadau bach yw £10,000 ac nid oes angen cyfreithiwr arnoch i wneud hawliad. Os ydych yn penodi cyfreithiwr i’ch helpu gyda’ch hawliad bach yna nid yw’n debygol y bydd y barnwr yn talu eich costau i chi.
Yr Ombwdsmon
Mae ombwdsman yn cael ei apwyntio i archwilio cwynion yn erbyn sefydliad. Mae defnyddio gwasanaeth ombwdsman yn ffordd o geisio osgoi mynd i’r llys i ddatrys cwyn.
Ceir rhestr gyflawn o wasanaethau’r ombwdsman ar wefan Cymdeithas yr Ombwdsmon.