Sut i reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â Choncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth
Ffurf ysgafn o goncrit a ddefnyddir i adeiladu toeau, lloriau, cladin a waliau yn y DU rhwng canol y 1950au a chanol y 1980au yw RAAC (Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth)
Er ei fod yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin mewn adeiladau cyhoeddus, mae RAAC wedi'i ganfod mewn ystod eang o adeiladau nad ydynt bellach yn eiddo i'r sector cyhoeddus.
Rhaid i unrhyw un sydd â chyfrifoldebau rheoli adeiladau benderfynu a yw'r adeilad yn cynnwys RAAC, ac os felly, ei leoliad a'i gyflwr. Os yw RAAC yn bresennol, rhaid cymryd camau i reoli'r risgiau sy'n gysylltiedig â'r deunydd adeiladu hwn:
- Gallai defnyddwyr adeiladau fod mewn perygl sylweddol o niwed os dibynnir ar asesiadau analluog o RAAC
- Os amheuir RAAC, dylai Peiriannydd Strwythurol Siartredig neu Beiriannydd Sifil Siartredig sy'n gyfarwydd ag ymchwilio ac asesu strwythurau concrit cyfnerthedig wneud asesiad
- Os caiff RAAC ei gadarnhau, cynghorir asesiad risg o'r adeilad a'i ddefnydd
- Dylai asesiadau risg gael mewnbwn gan beiriannydd sydd â gwybodaeth a phrofiad priodol o RAAC
Rhagor o wybodaeth ac arweiniad
Adnoddau a chanllawiau ar gyfer RAAC