Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Triniaethau tyllu'r croen

Beth sydd angen i chi ei wybod am drwyddedu triniaethau arbennig

Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 – Rhan 4

O 29 Tachwedd 2024, mae rheolau trwyddedu newydd yn eu lle ar gyfer y triniaethau arbennig canlynol yng Nghymru:Tattoo artist

  • aciwbigo (gan gynnwys nodwydd sych)
  • tyllu'r corff (gan gynnwys tyllu clustiau)
  • electrolysis
  • tatŵio (gan gynnwys colur lled-barhaol a microbladio)

Mae'n bwysig cael mesurau atal a rheoli heintiau effeithiol ar waith ar gyfer y gweithdrefnau hyn i liniaru'r risg o heintiau i gleientiaid a deiliaid trwydded. Gallai methu â gwneud hynny arwain at gymryd camau cyfreithiol.

Pwrpas y cynllun trwyddedu yw:

  • gwella safonau hylendid a diogelwch
  • hyrwyddo safonau cyson ledled Cymru
  • darparu amddiffyniad mwy cadarn i iechyd cleientiaid
  • galluogi cwsmeriaid i adnabod yn hawdd unigolion trwyddedig sy'n gweithredu o safleoedd a cherbydau cymeradwy

Rhaid i berson sy’n cyflawni unrhyw un o’r 4 triniaeth arbennig ddynodedig wneud cais i’w Awdurdod Lleol am drwydded triniaeth arbennig, oni bai ei fod wedi’i eithrio.  Mae hyn yn berthnasol i bob unigolyn a oedd wedi'i gofrestru'n flaenorol i gyflawni gweithdrefnau o'r fath, a phob ymgeisydd newydd. Rhaid i unigolion wneud cais i'w hawdurdod lleol am dystysgrif cymeradwyo os ydynt:

  • yn gyfrifol am fangre neu gerbyd a ddefnyddir ar gyfer y gweithdrefnau hyn
  • rheoli busnes gweithdrefn arbennig

Rhaid i unigolion fodloni meini prawf penodol cyn gwneud cais am drwydded bersonol neu dystysgrif cymeradwyo os ydynt yn ymarferydd unigol a/neu â gofal am fangre neu gerbydau.

Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig
Amodau Gorfodol – Trwydded Gweithdrefnau Arbennig
Amodau Gorfodol – Tystysgrif Cymeradwyo Safle

Cyfnod pontio ar gyfer ymarferwyr a busnesau sydd wedi cofrestru gyda’u hawdurdod lleol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982

Bydd cyfnod o drawsnewid pan ddaw'r cynllun trwyddedu i rym. Bydd hyn yn galluogi ymarferwyr a busnesau a oedd wedi’u cofrestru’n flaenorol o dan yr hen gynllun cofrestru i barhau i ymarfer yn y tymor byr.  Mae awdurdodau lleol wedi hysbysu'r unigolion hynny os ydynt yn cael trwydded drosiannol neu dystysgrif cymeradwyaeth drosiannol. Bydd angen i unigolion gyflwyno eu ffurflen gais o dan y cynllun newydd erbyn 28 Chwefror 2025 er mwyn gallu ei hasesu a'i phrosesu.  Bydd Awdurdodau Lleol yn hysbysu unigolion o'r canlyniad.

Os nad yw Awdurdodau Lleol wedi penderfynu ar geisiadau a gyflwynwyd erbyn 28 Chwefror 2025, bydd unigolion yn dal i allu parhau i ymarfer nes bod eu Hawdurdod Lleol yn rhoi penderfyniad iddynt ar eu cais.  Gallai gymryd sawl mis i bob cais gael ei asesu yn y newid hwn i gynllun trwyddedu newydd gan y bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn ymdrin â cheisiadau gan ymgeiswyr newydd am drwydded neu dystysgrif cymeradwyo.

Ni ellir ymestyn dyddiad y cyfnod pontio, felly ni fydd unrhyw ymarferydd neu weithredwr busnes presennol sy’n methu â chyflwyno eu cais newydd erbyn 28 Chwefror 2025 yn gallu elwa o’r trefniant trosiannol mwyach.

Pobl, safleoedd a cherbydau nad ydynt erioed wedi'u cofrestru

Bydd angen i unigolion nad ydynt erioed wedi cofrestru wneud cais am:

  • trwydded bersonol i gynnal un neu ragor o’r triniaethau arbennig a restrir.
  • tystysgrif gymeradwyo ar gyfer y safle/cerbyd y byddant yn gweithredu ohono os ydynt yn gyfrifol am fangre neu gerbyd a ddefnyddir ar gyfer y triniaethau hyn (neu’n rheoli busnes triniaethau arbennig)

Ni allwch ddechrau ymarfer, na defnyddio'r safle/cerbyd, i ddarparu triniaethau arbennig nes bod yr Awdurdod Lleol perthnasol wedi cwblhau prosesu eu cais. Nid yw'r trefniadau trosiannol yn berthnasol i unigolion nad ydynt erioed wedi'u cofrestru.

Gwneud cais am Drwydded Triniaethau Arbennig neu Gymeradwyaeth Safle / Cerbyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg

Gallwch gyflwyno'ch cais i'r Awdurdod Lleol y bydd eich busnes yn gweithredu ohono drwy ddilyn y dolenni isod.

Pen-y-bont ar Ogwr - Triniaethau arbennig: aciwbigo, electrolysis, tyllu'r corff a thatŵio

Caerdydd - Trwyddedau hamdden a thriniaeth bersonol

Bro Morgannwg - Triniaethau Arbennig: Aciwbigo, Electrolysis, Tyllu'r Corff a Tatŵio

Mae'n rhaid i ddeiliaid trwydded arddangos eu trwydded yn eu prif weithle neu wisgo eu trwydded llinyn cortyn. Rhaid i fangreoedd a cherbydau cymeradwy hefyd arddangos eu tystysgrif cymeradwyo.

Mae cofrestr genedlaethol wedi'i chreu i roi cyhoeddusrwydd i bob deiliad trwydded ddilys yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys deiliaid tystysgrif safle a cherbyd cymeradwy.

Nod y gofrestr yw rhoi hyder i’r cyhoedd y bydd pob unigolyn sy’n ymddangos ar y gofrestr wedi’i drwyddedu neu ei gymeradwyo i weithredu yng Nghymru.  Bydd awdurdodau lleol yn diweddaru'r gofrestr hon wrth iddynt roi trwyddedau a thystysgrifau cymeradwyo.

Arweiniad

 

Os oes angen rhagor o wybodaeth neu arweiniad arnoch chi parthed tatŵio neu dyllu, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU