Ymgynghori Cyhoeddus ar Geisiadau Trwyddedau Amgylcheddol
Rydym yn gofyn am eich sylwadau ar gais am drwydded amgylcheddol a dderbyniwyd gan fusnesau ym Mhen-y-Bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg
Beth allwn ni ei gymryd i ystyriaeth?
- Gofynion rheoleiddio amgylcheddol a safonau technegol perthnasol.
• Gwybodaeth ar boblogaeth leol a safleoedd sensitif.
• Sylwadau ynghylch a yw'r broses gywir yn cael ei defnyddio ar gyfer y gweithgaredd, er enghraifft, ai'r dechnoleg hon yw'r un gywir.
• Siâp a defnydd y tir o amgylch y safle o ran ei effaith bosibl, a yw'r effaith honno'n dderbyniol a pha gamau i'w cymryd i reoli llygredd neu i'w atal.
• Caniatáu amodau drwy ddarparu gwybodaeth nad ydym wedi cael gwybod amdani yn y cais, neu drwy gywiro gwybodaeth anghywir yn y cais (e.e. monitro a thechnegau i reoli llygredd).
Beth na allwn ni ei gymryd i ystyriaeth?
• Materion y tu hwnt i'r rheini yn y rheoliadau amgylcheddol perthnasol.
• Unrhyw beth y tu allan i gylch gwaith y Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, e.e. lleoliad arfaethedig y safle, a wneir gan yr awdurdod lleol drwy gynllunio defnydd tir.
• A ddylai safle gael dynodiad ffurfiol o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd neu ddeddfwriaeth gadwraeth arall.
• A ddylid caniatáu'r gweithgaredd ai peidio fel mater o egwyddor.
• Materion defnydd tir wrth benderfynu ar gais am drwydded, hyd yn oed pe bai newid lleoliad y gweithgaredd yn gwella ei berfformiad amgylcheddol.
• Effaith sŵn ac arogleuon o draffig sy'n teithio i'r safle ac oddi yno.
• Y broses a ddiffiniwyd yn gyfreithiol y byddwn yn ei dilyn i benderfynu ar drwydded.
• Rhoi trwydded/amrywiad os yw'r gweithredwr yn gallu dangos ei fod yn gallu cyflawni'r gweithgaredd heb risg sylweddol i'r amgylchedd neu iechyd dynol.
Ceisiadau cyfredol a dogfennau cysylltiedig yn gymwysiadol i Ben-y-Bont ar Ogwr
Ymgeisydd
|
Cyfeiriad ble mae'r gweithgaredd i gymeryd lle
|
Cais
|
Dyddiad olaf am sylwadau
|
Dogfennau Cysylltiedig
|
Shillibiers Ltd |
Plot 43, Heol Village Farm, Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, Y Pîl CF33 6BN. |
Cais am drwydded |
30ain Tachwedd, 2022 |
Cais a chynlluniau |
|
|
|
|
|
Os hoffech wneud sylw, gyrrwch ebost yn defnyddio ein ffurflen arlein, neu ysgrifennwch atom:
-
Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gwasanaethau Cymdogaethol, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-Bont ar Ogwr, CF31 4WB.
Ceisiadau cyfredol a dogfennau cysylltiedig yn gymwysiadol i Gaerdydd
Os hoffech wneud sylw, gyrrwch ebost yn defnyddio ein ffurflen arlein, neu ysgrifennwch atom:
Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gwasanaethau Cymdogaethol, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
Ymgeisydd
|
|
Cais |
Dyddiad olaf am sylwadau
|
Dogfennau Cysylltiedig
|
|
|
Dim ceisiadau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd
|
|
|
|
|
|
|
|
Ceisiadau cyfredol a dogfennau cysylltiedig yn gymwysiadol i Fro Morgannwg
Os hoffech wneud sylw, gyrrwch ebost yn defnyddio ein ffurflen arlein, neu ysgrifennwch atom:
Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, Gwasanaethau Cymdogaethol, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
Ymgeisydd
|
Cais
|
Dyddiad olaf am sylwadau
|
Dogfennau Cysylltiedig
|
|
Dim ceisiadau yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. |
|
|
|
|
|
|