Cyn Rhoi Gwybod am Broblem Sŵn
Mae ein profiad yn dangos nad yw’r sawl sy’n achosi’r sŵn yn aml yn ymwybodol o’r effaith y mae’n ei gael ar eraill.
Gall ymagwedd anffurfiol, yn enwedig os yw rhwng cymdogion, ddatrys y broblem yn gynnar a'i hatal rhag troi'n broblem fwy; cydnabyddir fodd bynnag, nad yw hyn yn addas ym mhob achos.
Os ydych yn dioddef o niwsans sŵn ac yn ystyried trafod hyn gyda’r unigolyn dan sylw, efallai yr hoffech gadw’r canlynol mewn cof:
- Gwnewch y dynesiad pan nad ydych yn grac neu'n ofidus
- Cytunwch ar amser cyfleus i gyfarfod
- Meddyliwch ymlaen llaw am yr hyn yr hoffech ei ddweud – byddwch yn glir ac yn fanwl gywir ynghylch eich barn am y broblem
- Arhoswch yn dawel
- Dylech ganiatáu iddo / iddi fynegi ei farn ei hun a cheisio deall yr hyn sy'n cael ei ddweud
- Byddwch yn barod i dderbyn gwahaniaethau mewn agweddau neu ffyrdd o fyw, ond byddwch yn gadarn ynghylch ymddygiadau sy'n achosi niwed neu straen
- Cymerwch y farn y gallwch ddod o hyd i benderfyniad gyda'ch gilydd
- Byddwch yn rhesymol – os cynigir consesiynau i chi weld a allwch wneud yr un peth ond peidiwch â rhuthro i gytundeb anfoddhaol.
Os na fydd y dull hwn yn gweithio neu os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus yn siarad â'ch cymydog, efallai yr hoffech anfon llythyr atynt i dynnu eu sylw at y broblem a gofyn iddynt leihau'r sŵn.
Dylech ganiatáu pythefnos i'ch llythyr gael ei ystyried a gweithredu. Cadw copïau o bob llythyr a nodyn yn dilyn unrhyw drafodaeth. Mae enghraifft o lythyr y gallech ei anfon ar gael yma.
Fel dewis arall i wneud eich dull eich hun, ac os ydych chi neu'r parti arall yn denant i landlord cymdeithasol, mae gennych yr opsiwn o adrodd hyn i'r sefydliad hwnnw. Mae gan landlord cymdeithasol ddyletswydd gofal cyfreithiol i ymateb i ymddygiad sy’n effeithio’n andwyol ar eu tenantiaid, neu a achosir gan eu tenantiaid ac sy’n effeithio ar eraill. Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt landlordiaid cymdeithasol yma.