Tai Gwag - Caerdydd
Gweler isod restr o gynlluniau sydd ar gael i Berchnogion Eiddo Gwag yng Nghaerdydd
Benthyciad Troi Tai'n Gartrefi Cyngor Caerdydd
A ydych yn berchen ar eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yn ardal Caerdydd? Gallech fod yn gymwys i gael cyfran o’r arian sydd ar gael drwy gynllun Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru.
Mae benthyciadau di-log ar gael i dalu cost atgyweiriadau a gwelliannau i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, naill ai i’w werthu ymlaen neu i’r farchnad rhentu. Gall cyllid benthyciad helpu i adnewyddu neu drosi eiddo preswyl a masnachol yn amodol ar gymeradwyaeth caniatâd cynllunio perthnasol.
I wneud cais am fenthyciad, rhaid i chi fod yn berchennog neu'n edrych i brynu eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis.
Mae uchafswm o £25,000 fesul eiddo/uned, hyd at £150,000 fesul ymgeisydd, ar gael. Mae swm y dyfarniad wedi’i gapio ar fenthyciad o 80% i werth, yn seiliedig ar unrhyw forgais presennol ynghyd â’r benthyciad Troi Tai’n Gartrefi y gwnaed cais amdano, yn erbyn gwerth presennol yr eiddo.
Rhaid i unrhyw fenthyciad a gymeradwyir gael ei warantu'n ariannol yn erbyn yr eiddo trwy naill ai arwystl cyntaf neu ail arwystl. Os oes gan yr eiddo forgais sy'n bodoli eisoes, bydd y Cyngor angen caniatâd gan y benthyciwr i sicrhau'r arwystl. Unwaith y bydd y gwaith adnewyddu wedi'i gwblhau, dylai'r eiddo fodloni'r Safon Troi Tai'n Gartrefi. Rhaid ad-dalu'r benthyciad yn llawn o fewn 2 flynedd os yw'r eiddo i'w werthu neu 3 blynedd os yw'r eiddo i'w rentu.
Sylwch: Bydd ffi gwneud cais am fenthyciad a bydd gofyn i chi ddangos eich gallu i ad-dalu'r benthyciad trwy eich cais.
Sut i wneud caisI fynegi eich diddordeb yn y cynllun, cysylltwch â: homesintohomes@caerdydd.gov.uk neu fel arall, ffoniwch: 07971 610679
Cynllun Prydlesu PRS Llywodraeth Cymru Gall tîm LETS Cyngor Caerdydd eich helpu i rentu eiddo gwag drwy Gynllun Prydlesu Sector Preifat Llywodraeth Cymru.
Beth yw Cynllun Prydlesu LlC Cymru (GCD)?Mae'r cynllun prydlesu yn caniatáu i berchnogion eiddo gwag brydlesu eu tai i Gyngor Caerdydd gydag incwm rhent misol gwarantedig a rheoli eiddo (gan gynnwys atgyweirio a chynnal a chadw) am leiafswm o brydlesi 5 mlynedd i 20 mlynedd.
Nod y cynllun yw gweithio ochr yn ochr â pherchnogion eiddo i gyflenwi tai cost isel o ansawdd uchel yng Nghaerdydd. Drwy rentu eich eiddo drwy'r cynllun, byddwch yn helpu i wneud rhentu'n breifat yn opsiwn mwy fforddiadwy, gan ganiatáu i fwy o bobl gael mynediad i farchnad dai'r SRhP. Mae'r cynllun o fudd i berchnogion eiddo a thenantiaid drwy gydol y cyfnod meddiannu. O ganlyniad, mae trefniadau tenantiaeth llwyddiannus yn cael eu ffurfio ac yn para am flynyddoedd lawer.
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun, cliciwch yma.
Fel arall, lawrlwythwch becyn gwybodaeth landlord isod. Mae’r llyfryn yn amlinellu’r cynllun, buddion y landlordiaid, gofynion perchennog yr eiddo a’r cymorth ariannol sydd ar gael.
Sut i wneud caisOs ydych yn berchen ar eiddo, gallwch fynegi eich diddordeb yn y cynllun drwy lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb a’i dychwelyd i: Lets@caerdydd.gov.uk Neuadd y Sir, Glanfa Iwerydd, Caerdydd, CF10 4UW
I gael rhagor o wybodaeth ar wefan LETS Cyngor Caerdydd, cliciwch yma.