Mae trwyddedu’n ystyried amrywiaeth o faterion, o safon yr eiddo i reolaeth yr eiddo, ymddygiad anghymdeithasol a diogelwch. Mae amodau trwydded yn cynnwys ystod eang o faterion, yn eu plith, diogelwch tân ac adnoddau. Mae’r ddau beth yma hefyd yn destun gofynion safonau penodol - gweler y dolenni isod am wybodaeth bellach.
Yn ogystal ag amodau’r drwydded, a roir fel rhan o bob trwydded HMO, mae’r Cyngor hefyd yn talu sylw i faterion iechyd a diogelwch o fewn HMOs gyda golwg ar y System Cyfraddau Iechyd a Diogelwch Tai (HHSRS). Y system hon a ddefnyddir gan y llywodraeth i asesu risgiau posibl i iechyd yn sgil amodau tai.
Caiff 29 categori o berygl mewn tai eu hasesu o dan y system hon. Rhoddir pwysiad i bob perygl, a fydd yn help wrth benderfynu ar gyfradd y tŷ fel categori 1 (difrifol) neu gategori 2 peryglon (eraill).
Yn gyffredinol, mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod safonau tai’n cael eu cynnal ac nad oes risg i breswylwyr oherwydd peryglon iechyd a diogelwch yn eu cartrefi.
Yn dilyn asesu eiddo, bydd gweithredu addas yn digwydd i sicrhau bod landlordiaid yn mynd i’r afael ag unrhyw beryglon a gafodd eu hamlygu.