Tai Myfyrwyr
Cyngor i fyfyrwyr sy’n symud o neuadd breswyl i dŷ neu lety preifat.
Mae tair prifysgol sy’n prysur dyfu yng Nghaerdydd – Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru.
Os ydych chi’n ystyried gwneud cais i un ohonyn nhw, neu’n dychwelyd am flwyddyn arall, mi gewch gyngor ar dai a llawer mwy ar wefan Llety Caerdydd / Cardiff Digs.
Cynllun Gweithredu Cymuned Myfyrwyr Caerdydd
Mae Cyngor Sir Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru wedi sefydlu partneriaeth i wella ansawdd bywyd myfyrwyr, preswylwyr a’r gymuned ehangach.
Ar y cyd, maen nhw wedi lansio Cynllun Gweithredu Myfyrwyr Caerdydd, sy’n amlinellu’r ffordd mae’r partneriaid yn cydweithio i sicrhau gwell letya, i wella iechyd a diogelwch cymunedol, i annog gwell cyswllt yn y gymdogaeth a pharch at y gymuned, ac i hyrwyddo cynaliadwyedd yr amgylchedd.