Gorchymyn i gyn-berchennog ar fwyty yn y ddinas i dalu dros £1000 am droseddau hylendid bwyd
Mae cyn-berchennog bwyty adnabyddus, yr Himalaya ar Heol Wellfield, Caerdydd wedi derbyn dirwy sydd dros £1000 am gyfres o droseddau hylendid bwyd.
Tachwedd 19eg, 2019
Dwedodd y llys wrth Samsul Islam, 32 oed, y byddai’r ddirwy wedi bod yn sylweddol uwch, yn ‘ddegau o filoedd’ pe na byddai Mr Islam yn ddi-waith. Deellir fod Mr Islam wedi gwerthu’r busnes ym mis Ebrill 2019 a bod perchnogion newydd ar fwyty yr Himalaya erbyn hyn.
Daeth yr achos i’r golwg pan aeth swyddogion o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir i’r bwyty Indiaidd ar 21 Tachwedd 2018, a chanfod fod olion baw llygod yn ‘helaeth’ drwy’r ardaloedd storio a pharatoi bwyd yn ogystal â thomenni o sbwriel yn yr iard gefn. Wedi’r archwiliad, daeth y swyddog ymchwilio i’r casgliad fod “perygl gwirioneddol o heintio bwyd a fyddai’n bodloni amod peryglu i iechyd.”
Caeodd Mr Islam y bwyty yn wirfoddol a rhoddwyd cyngor iddo ar y gwaith yr oedd angen ei wneud. Dangosodd archwiliad pellach ar 22 Tachwedd, fod gwaith adeiladu wedi ei wneud, yn ogystal â glanhau trylwyr ac yn fuan wedi hynny fe ail-agorodd y bwyty.Gwnaed archwiliad pellach wedyn ar 30 Ionawr, 2019 ac fe ganfu swyddogion “fwy o olion baw llygod ledled yr ardaloedd storio a pharatoi bwyd”.
Yn ystod yr archwiliad, arddangoswyd sgôr hylendid bwyd o ddau, ynhytrach na’r sgôr cywir sef un. Caewyd y bwyty yn wirfoddol unwaith yn rhagor. Dwedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd:
“Pan gynhaliwyd archwiliad terfynol gan swyddogion ar 1 Chwefror eleni, roedd y swyddogion yn hapus fod blychau abwyd wedi eu gosod, ac nad oedd y maglau wedi dal unrhyw gnofilod, dangosodd yr archwiliad fod gwaith adeiladu pellach wedi ei wneud a bod y gegin yn lân."
Eglurodd Mr Islam, a gynrychiolodd ei hun yn y llys, ar adeg yr archwiliadau nad oedd ei sylw yn gyfangwbl ar y bwyty am fod ei dad yn derbyn triniaeth feddygol yn Llundain a olygai ymweliadau cyson â’r lle hwnnw. Honodd Mr Islam ei fod hefyd wedi trefnu ymweliadau gan gwmni difa pla ond nad oedden nhw wedi ymddangos.Cafodd Samsul Islam ddirwy o £1,000 a gorchmynnwyd iddo dalu costau o £400 a thâl dioddefwr o £30.
Dwedodd llefarydd ar ran y Cyngor: “Rydym yn cymryd digwyddiadau fel hyn o ddifri gan y gallai unrhyw dor-cyfraith effeithio’n ddifrifol ar iechyd rhywun
.“Fyddwn ni ddim yn oedi cyn erlyn, os welwn ni fusnesau lle mae’r safonau wedi disgyn yn is na’r hyn sy’n dderbyniol. Rydym am i bob busnes gwerthu bwyd yn y ddinas gyrraedd y safonau gofynnol.
“Mae ein swyddogion yn cynnal gwiriadau rheolaidd a byddant yn ymweld â phob man sy’n gwerthu bwyd yn y ddinas, felly rydym yn annog yr holl fusnesau yna i sicrhau eu bod yn rhedeg eu busnesau yn gyfreithiol neu baratoi i wynebu’r canlyniadau.”