Darganfod pla Chwilod Duon Almaenig mewn siop tecawê yn y ddinas
Cafwyd hyd i chwilod duon wrth ymyl bag agored o flawd, baw a bryntni ar y llawr, y waliau a'r offer, yn ogystal â bagiau gwastraff agored a adawyd mewn ardaloedd paratoi bwyd.
Tachwedd 22ain, 2019
Dyma a ddarganfuwyd yn y siop tecawê The Kebab Kings yn 64 Tudor Street, Glan-yr-afon, pan ymwelodd swyddogion o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir â’r busnes ar 9 Hydref 2018, er mwyn cynnal arolygiad. Yn ymddangos yn Llys Ynadon Caerdydd ar 12 Tachwedd, gorchmynnwyd i’r unig gyfarwyddwr, Mr Imran Kahn, 33, o Neville Street, Caerdydd, dalu dros £1000 ar ôl pledio’n euog i wyth trosedd hylendid bwyd.
Daeth yr achos hwn i’r amlwg, pan basiwyd atgyfeiriad i’r Cyngor gan y gwasanaethau cymdogaeth pan oeddent yn clirio fflat uwchben y siop tecawê ac wedi dod o hyd i bla chwilod duon.Gan weithredu ar y wybodaeth a dderbyniwyd, pan aeth swyddog iechyd yr amgylchedd i mewn i'r siop tecawê, roedd y gegin mewn cyflwr budr iawn ac roedd chwilod duon byw yn rhedeg ar draws y llawr heibio i draed y swyddog.
Yn dilyn archwiliad pellach, daeth yn amlwg bod gormod o chwilod duon i'w cyfrif a chaewyd y busnes yn wirfoddol gan Mr Imran ar unwaith. Dywedodd Llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Roedd yr hyn a ddarganfuwyd yn y busnes hwn yn peri pryder mawr, gan fod chwilod duon yn cario bacteria niweidiol fel Salmonela ac E.coli a all achosi gwenwyn bwyd a hyd yn oed dysentri.
“Gwelwyd y pryfed hyn nid yn unig mewn bag agored o flawd, ond ar yr ardaloedd paratoi bwyd a ddefnyddiwyd i baratoi toes pizza yn ogystal ag mewn ardaloedd eraill lle roedd bwyd yn cael ei baratoi. Roedd hyn yn peri risg sylweddol i iechyd y cyhoedd.”
"Yn ystod yr arolygiad, pan ofynnwyd i Mr Khan a oedd yn ymwybodol o’r broblem, ymatebodd i’r swyddog, gan egluro iddo ddod yn ymwybodol o’r mater “cwpl o ddyddiau yn ôl a bod y busnes yn dioddef anawsterau ariannol a’i fod yn ystyried cau.”
Ers yr arolygiad mae'r busnes wedi aros ar gau ac nid yw'n masnachu mwyach.Wrth ddarparu lliniariad, dywedodd Mr Khan wrth y llys ei fod wedi prynu rhai chwistrelli pryfed mewn ymgais i drin y pla a'i fod yn bwriadu cysylltu â chwmni rheoli plâu.
Parhaodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: “Mae’n bwysig iawn i bob busnes bwyd gydymffurfio â’r gyfraith ar gyfer iechyd a diogelwch eu cwsmeriaid Mae arolygiadau arferol yn cael eu cynnal ac rydym hefyd yn gweithredu ar unrhyw wybodaeth a dderbynnir trwy ddilyn y materion hyn gydag arolygiadau."
Cafodd Imran Khan ddirwy o £900, ei orchymyn i dalu costau o £300 gyda gordal dioddefwr o £90.