Mesurau bioddiogelwch a llety gorfodol newydd ar gyfer yr holl ddofednod ac adar caeth yng Nghymru
Bydd y mesurau’n cael eu cyflwyno ar 2 Rhagfyr 2022, yn dilyn penderfyniad gan Brif Swyddog Milfeddygol dros dro Cymru.
Tachwedd 30ain, 2022
O’r dyddiad hwn, bydd yn ofyniad cyfreithiol i bob ceidwad adar gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu oddi wrth adar gwyllt eraill.
Rhaid i geidwaid hefyd gwblhau a gweithredu ar adolygiad bioddiogelwch pwrpasol o'r safle lle cedwir adar. Mae hyn er mwyn lleihau'r risg o firws yn mynd i mewn i dai adar, sydd fel arfer yn arwain at farwolaethau uchel. Mae’r mesurau newydd hyn yn ychwanegol at y rhai ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy’n parhau i fod yn hollbwysig.
Anogir ceidwaid adar i baratoi ar gyfer cyflwyno’r mesurau newydd, drwy wneud yn siŵr bod tai yn addas, gyda’r amgylchedd dan do yn cael ei wella i ddiogelu lles adar. Dylai ceidwaid ymgynghori â'u milfeddyg am gyngor lle bo angen.
Mae copi o'r rhestr wirio bioddiogelwch ar gael yn Rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch gorfodol | LLYW.CYMRU
Dylai ceidwaid dofednod ac adar caeth ac aelodau o'r cyhoedd adrodd adar gwyllt marw i linell gymorth Defra ar 03459 33 55 77 (opsiwn 7), a dylai ceidwaid hysbysu APHA am amheuaeth o glefyd ar 03000 200 301. Dylai ceidwaid ymgyfarwyddo â chyngor https://www.gov.uk/guidance/avian-influenza-bird-flu