Hylendid Ffid Anifeiliaid
Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gweithio mewn partneriaeth â’r Asiantaeth Safonau Bwyd i orfodi cydymffurfiaeth â deddfwriaeth hylendid ffid anifeiliaid ar safleoedd amaethyddol a lle cedwir stoc.
Mae ffid anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig yn y gadwyn fwyd, ac mae’n effeithio ar gyfansoddiad ac ansawdd cynnyrch anifeiliaid (llaeth, cig ac wyau) y mae pobl yn eu bwyta.
Nod y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir ydy helpu amddiffyn defnyddwyr ac iechyd anifeiliaid, ac i sicrhau bod gan y bobl sy’n prynu’r ffid ddigon o wybodaeth i wneud dewisiadau cytbwys.
Cofrestru Busnes Bwyd Anifeiliaid
Yn unol â Rheoliadau Hylendid Ffid Anifeiliaid r UE (183/2005), rhaid i bob busnes ffid sy’n cynhyrchu, marchnata, dosbarthu neu ddefnyddio ffid anifeiliaid gael eu cymeradwyo gan, neu eu cofrestru gyda’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Mae hyn yn cynnwys gwneuthurwyr a mân-werthwyr sy’n gwerthu isgynhyrchion cynnyrch bwyd i’r gadwyn ffid, a ffermwyr da byw a ffermydd tir âr sy’n tyfu cnydau at ddefnydd ffid.
Er mwyn cael cymeradwyaeth, rhaid cynnal ymweliad archwilio â’r safle gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir cyn bod y sefydliad yn medru gweithredu. Mae cofrestru’n golygu gosod y sefydliad ar gofrestr i ganiatáu i’r awdurdodau gynnal archwiliadau asesu risg a gweithredu’n orfodol os oes angen.
I gofrestru’ch safle, cwblhewch a chyflwynwch y ffurflen ganlynol:
Cais am Gofrestru neu Gymeradwyo o dan Reoliad Hylendid Bwyd Anifeiliaid y Gymuned Ewropeaidd (183/2005)
- Cysylltu â Ni
- Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
Arweiniad