Diogelwch Nwyddau
Y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir sy’n gyfrifol am orfodi ystod eang o ddeddfwriaeth diogelwch ym maes nwyddau defnyddwyr.
O dan ddeddfwriaeth diogelwch, rydyn ni’n gyfrifol am archwilio nwyddau o ran diogelwch ar adegau gwneuthuro, mewnforio a mân-werthu. Mae labelu cywir ar nwyddau’n hanfodol i sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n gywir a chan y grwpiau oedran addas.
Yn gyffredinol, ymhlith y nwyddau y ceir y mwyaf o gwyno amdanynt mae:
- Nwyddau trydanol (fel gwefrwyr ffonau symudol)
- Gwelyau haul
- Teganau
- Colur
- Dodrefn
- Ceir ail law
Caiff nwyddau eu harchwilio mewn safleoedd gwneuthuro a mân-werthu ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Cynhelir cynllun samplu ar amrywiaeth eang o nwyddau bob blwyddyn hefyd.
Mae’r nwyddau dan sylw’n cael eu prynu’n lleol a’u hanfon at gwmnïau profi arbenigol i weld a ydyn nhw’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth neu’r safonau diogelwch perthnasol.
Byddwn ni’n archwilio cwynion gan aelodau’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi prynu nwyddau anniogel.
Dweud wrthon ni
Dywedwch wrthon ni drwy’r Gwasanaeth Cyngor Defnyddwyr os ydych chi’n credu eich bod wedi prynu cynnyrch anniogel:
03454 04 05 05
Adrodd Cynnyrch Anniogel Ar-lein
Guidance