Deddf Masnachu ar y Sul
Bydd angen i fân-werthwyr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg sy’n dymuno masnachu ar y Sul gydymffurfio â Deddf Masnachu ar y Sul 1994.
Nod y ddeddf ydy caniatáu i siopau fasnachu, ac ar yr un pryd, amddiffyn hawliau gweithwyr ar ddydd Sul a gostwng lefelau llygredd sŵn.
Mae’r ddeddf yn caniatáu i siopau bach agor ar ddydd Sul, a gall siopau mwy agor am hyd at chwe awr, yn amodol ar y math o nwyddau maen nhw’n eu gwerthu.
Rhaid arddangos oriau agor ar y Sul y tu mewn a’r tu allan i’r safle.
Safleoedd bach
Ardal werthiant hyd at 280 metr sgwâr
- Nid ydy hyn yn cynnwys ystafelloedd stoc, swyddfeydd, tai bach na deunyddiau arddangos y tu allan, dim ond yr ardal lle mae cwsmeriaid yn prynu a nwyddau’n cael eu harddangos.
- Nid oes cyfyngiad ar oriau agor masnachu ar y Sul i siopau bach.
Safleoedd mawr
Ardal werthiant dros 280 metr sgwâr
- Mae Deddf Masnachu ar y Sul yn cyfyngu ar oriau agor siopau ag arwynebedd gwerthiant yn fwy na 280 metr sgwâr.
- Caniateir i siopau mawr agor i fasnachu ar y Sul am uchafswm o chwe awr yn olynol rhwng 10a.m. a 6p.m. yn unig.
Eithriadau
Mae’r ddeddf yn caniatáu i rai mathau o fusnesau agor am gyfnod hirach na chwe awr yn olynol, fel isod:
- Tafarndai, siopau diod, siopau prydau parod (daw’r rhain o dan Ddeddf Drwyddedu 2003)
- Fferyllfeydd sydd ond yn gwerthu nwyddau meddygol
- Siopau mewn gorsafoedd trên
- Gorsafoedd tanwydd ac ardaloedd gwasanaeth cysylltiedig
- Siopau ategolion moduro
- Siopau fferm
- Stondinau arddangosfa
Arweiniad