Petroliwm a Ffrwydron
Y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir sy’n gyfrifol am orfodaeth petroliwm a ffrwydron ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.
Rhaid i bob gorsaf danwydd a busnes sy’n cyflenwi petroliwm gael eu trwyddedu gan bob awdurdod lleol.
Mae’r broses drwyddedu’n cynnwys cymeradwyo a phrofi adnoddau a systemau storio a chyflenwi’r busnes, a’i arferion gweithredu diogel.
Mae’n ofynnol i fân-werthwyr tân gwyllt gofrestru gyda’r awdurdod lleol.
Caiff pob safle lle mae tân gwyllt yn cael eu storio eu harchwilio gan swyddogion y gwasanaeth i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r amodau gofynnol o dan delerau’r drwydded, a chadarnhau bod yr ardal storio’n ddiogel a bod y busnes yn gweithredu mewn modd diogel.
Ymhlith yr eitemau a reolir, mae ffrwydron fel cetris gynnau, pyrotechneg a thân gwyllt.
Dweud wrthon ni
Os ydych chi’n poeni am werthiant tân gwyllt anghyfreithlon, cysylltwch â’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir:
- Cysylltu â Ni
- Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
Am, wybodaeth bellach ar y gyfraith sy’n ymwneud â thân gwyllt, ewch i wefan Gov.uk.
Os ydych chi’n poeni bod tân gwyllt yn cael eu gwerthu i blant o dan oed, ewch i’r dudalen Gwerthu o Dan Oed.