Gwobr Lefel 1 Highfield mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo
Yn ôl y gyfraith, rhaid i weithredwyr busnesau bwyd sicrhau bod y rhai sy'n trin bwyd yn cael yr oruchwyliaeth a'r hyfforddiant priodol mewn hylendid bwyd.
Amcan y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth, neu gefnogi sefyllfa bresennol o fewn rôl risg isel, lle mae elfen o drin bwyd. Gallai hyn gynnwys gweithwyr bar, staff aros, gweithwyr gofal iechyd, porthorion cegin a staff stoc/storfa.
Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi ennill y cymhwyster hwn?
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cwrs hyfforddi hanner diwrnod yn yr ystafell ddosbarth neu ar-lein.
Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i gymryd y cymhwyster hwn?
Nid oes unrhyw ragofynion pwnc-benodol ac mae'r cymhwyster yn addas ar gyfer dysgwyr 14+ oed. Argymhellir bod gan ddysgwyr sy'n dilyn y cymhwyster o leiaf Lefel 1 mewn Saesneg a mathemateg neu gyfwerth. Os ydych yn ansicr a yw'r cwrs hwn yn addas i chi, cysylltwch â ni i drafod gofynion y cwrs cyn archebu eich lle. Rydym ar hyn o bryd yn treialu cyrsiau Lefel 1 mewn Bengali a Saesneg ac mae dyddiadau'r cyrsiau hyn isod.
Sut mae'r cwrs yn cael ei asesu?
Asesir y cymhwyster hwn trwy arholiad amlddewis, lle mae'n rhaid i'r dysgwr ateb o leiaf 10 allan o 15 cwestiwn yn gywir. Bydd yr arholiad yn cymryd hyd at 30 munud i'w gwblhau.
Beth nesaf?
Mae’n bosibl y bydd unigolion sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn am symud ymlaen i gymwysterau eraill sy’n ymwneud â diogelwch bwyd ac alergenau, megis Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Ymwybyddiaeth o Alergenau Bwyd mewn Arlwyo (RQF), Dyfarniad Lefel 2 Highfield mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo (RQF). Gweler ein tudalennau hyfforddi am fanylion y cyrsiau hyn a chyrsiau eraill yr ydym yn eu cynnig.
Ble mae'r cwrs yn cael ei gynnal?
Rydym yn cyflwyno’r cwrs hwn yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â chyflwyno’r cwrs ar-lein. I gymryd yr asesiad ar gyfer y Cymhwyster ar-lein, bydd angen gliniadur / cyfrifiadur / tabled neu rywbeth tebyg arnoch gyda gwe-gamera a meicroffon, yn ogystal â ffôn clyfar. Gweler ein prif dudalen hyfforddi am ragor o wybodaeth am e-asesiadau.
Beth yw'r gost?
Cost y cwrs hyfforddi hwn yw £48 y pen. Os hoffech wneud y cymhwyster hwn ar-lein, mae cost ychwanegol o £30 + TAW ar gyfer yr e-asesiad. Cyfanswm y gost ar gyfer cwblhau'r cymhwyster hwn ar-lein felly yw £78 + TAW.
Dyddiadau'r cyrsiau nesaf
Bydd ein cwrs nesaf yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Sut ydw i'n archebu fy lle?
Anfonwch e-bost atom neu llenwch y ffurflen archebu (hefyd ar ein tudalen gartref hyfforddi) i archebu eich lle. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod a byddwn yn hapus i helpu.