Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Dyfarniad RSPH Lefel Dau mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig

Amcan y cwrs hwn yw ymdrin ag egwyddorion rheoli heintiau drwy gymhwyso’r ‘gadwyn heintiau’ a’r ‘rhagofalon rheoli heintiau safonol’ ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig naill ai’n gyflogedig, yn hunangyflogedig neu’n ymarferwyr sy’n rheoli busnes.

Mae'n gymhwyster annibynnol gwerthfawr sydd hefyd yn addas ar gyfer ymarferwyr dan hyfforddiant sy'n ymwneud â hyfforddiant aallef-vinicius-vKIc4k6dm10-unsplash chyflogaeth galwedigaethol perthnasol arall.

Pwrpas y cymhwyster hwn yw i ddysgwyr gael gwybodaeth a dealltwriaeth o; pwysigrwydd rheoli ac atal heintiau, peryglon heintus ac anheintus cysylltiedig, arfer da o ran heintiau a dulliau rheoli sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth o'r gadwyn heintiau a rhagofalon rheoli heintiau safonol.

Mae Ymarferwyr Triniaethau Arbennig yn unigolion sy'n ymarfer aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis neu datŵio. Yng Nghymru, nodir y rhain yn Adran 57 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 ac fe’u diffinnir ymhellach yn Adran 94 o’r Ddeddf honno.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i mi ennill y cymhwyster hwn?

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys cwrs hyfforddi undydd yn yr ystafell ddosbarth.

Pa gymwysterau sydd eu hangen arnaf i sefyll y cwrs hwn?

Nid oes unrhyw ragofynion pwnc-benodol ar gyfer cymryd y cymhwyster hwn ond a fyddech cystal â rhoi gwybod i ni os oes gennych unrhyw anghenion dysgu a allai olygu y bydd angen i ni wneud addasiadau rhesymol ar gyfer eich asesiad, wrth lenwi'r ffurflen archebu. Os na fyddwch yn dweud wrthym am unrhyw addasiadau sydd eu hangen arnoch wrth archebu eich lle, ni allwn warantu y byddwn yn gallu darparu ar eu cyfer ar y diwrnod. Cysylltwch â ni os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch a byddwn yn hapus i helpu.

Sut mae'r cymhwyster yn cael ei asesu?

Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth yr ymgeiswyr yn cael eu hasesu trwy arholiad amlddewis. Darperir yr arholiad gan RSPH ac mae'n cynnwys 30 cwestiwn. Bydd ymgeisydd sy'n gallu bodloni canlyniadau dysgu'r cymhwyster yn ennill sgôr o 25 allan o 30 o leiaf yn yr arholiad. Gall perfformiad cryf mewn rhai meysydd o gynnwys y cymhwyster wneud iawn am berfformiad gwaeth mewn meysydd eraill. Hyd yr arholiad yw 1 awr.

Beth nesaf?

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr sy’n dymuno gweithredu yng Nghymru yn gallu gwneud cais am drwydded Triniaethau Arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.

Ble gellir cymryd y cwrs hwn?

Rydym yn cyflwyno’r cwrs hwn yng Nghaerdydd a’r Barri ym Mro Morgannwg.

Cost?

Cost y cwrs hyfforddi hwn yw £95 y pen.

Dyddiadau

  • Dydd Llun 13 Mai 2024 - Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
  • Dydd Llun 3 Mehefin 2024 - Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU
  • Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024 - Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Sut ydw i'n archebu fy lle? 

Anfonwch e-bost atom neu llenwch y ffurflen archebu (hefyd ar ein tudalen gartref hyfforddi) i archebu eich lle. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar y manylion isod a byddwn yn hapus i helpu.

Sylwch, oherwydd y galw mawr y gallwn ei dderbyn am y cwrs hwn, byddwn yn blaenoriaethu busnesau sydd wedi’u lleoli yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg. Bydd unrhyw leoedd sy'n weddill wedyn yn cael eu cynnig i fusnesau eraill y tu allan i'r ardaloedd hyn.