Prynwch â Hyder
Cynllun annibynnol cenedlaethol yw Prynwch â Hyder - ‘Buy with Confidence’ - sy’n dangos i gwsmeriaid bod cwmni yn agored, yn onest, yn gweithredu o fewn cyfraith fasnachol ac yn gwasanaethu cwsmeriaid yn dda.
Mae’r holl fusnesau ar gofrestr Prynwch â Hyder wedi eu harchwilio’n fanwl a’u cymeradwyo gan Swyddogion Safonau Masnach i sicrhau eu bod yn gweithredu mewn modd cyfreithiol, gonest a theg.
Mae’r busnesau hyn yn parhau i gael eu monitro i helpu i sicrhau eich bod yn derbyn gwasanaeth o ansawdd, ac i gynnal cywirdeb y cynllun. Mae gennych dawelwch meddwl hefyd y cewch gefnogaeth gan yr adran Safonau Masnach i wneud iawn am bethau os aiff rhywbeth o’i le sy’n annhebygol.
Manteision i Fusnesau
Bydd y cwmnïau sy’n ymuno â Prynwch â Hyder wedi cael eu hystyried fel rhai sy’n cynnig gwasanaeth cwsmeriaid o safon uchel iawn, ac yn gyfnewid am hynny bydd modd iddyn nhw gael cyngor arbenigol ar safonau masnach.
Caiff eich busnes ei restru ar wefan Prynwch â Hyder i gwsmeriaid posib ddod o hyd i chi, a chewch dystysgrif aelodaeth y gallwch arddangos yn eich safle. Cewch ddeunydd hyrwyddol i hysbysebu eich aelodaeth o’r cynllun.
Mae Prynwch â Hyder yn arbennig o ddefnyddiol i fusnesau y mae cwsmeriaid ond yn eu defnyddio o dro i dro, fel plymwyr neu drydanwyr, lle nad ydynt yn gwybod sut i ddewis rhwng masnachwyr sy’n cystadlu yn erbyn ei gilydd, ond sydd am deimlo bod ganddynt hyder ynddynt.
Mae aelodaeth Prynwch â Hyder yn gyfle i bob busnes gael sylw amlwg, a’r hawl i ddweud eu bod ymhlith y GORAU o ran gwasanaeth i gwsmeriaid.
Ein aelodau lleol
NAC Property Clearance
Cwmni clirio tŷ a swyddfa proffesiynol â thrwydded ac yswiriant llawn ar gyfer De Cymru. Mae’r busnes yn arbenigo mewn gwasanaethau clirio tai, fflatiau a swyddfeydd di-straen, unrhyw le o Gasnewydd, Abertawe, a Chaerdydd i Flaenau’r Cymoedd, Bro Morgannwg, Llanelli, a Phenrhyn Gŵyr.
Mae'r busnes yn cael ei redeg o Borthcawl gan Mark Parry, sy'n dweud: "Nid ydym yn honni mai hwn yw'r gwasanaeth clirio tai a swyddfa mwyaf proffesiynol, effeithlon a dibynadwy ar gyfer ardal De Cymru ond byddwn yn rhoi cynnig arni. gwybod nad dim ond mater o gael yr offer cywir a bod yn dda yn y swydd yw hyn, mae hefyd yn ymwneud â pharchu a thrin ein cwsmeriaid yn iawn.”
Access Training (Wales) Limited
Mae Access Training (Wales) Limited yn darparu ystod gynhwysfawr o gyrsiau achrededig ar gyfer unigolion sydd am ddod yn grefftwyr proffesiynol, gan gynnwys gosodwyr ceginau, peirianwyr Gas Safe a thrydanwyr medrus. Gyda’i brif swyddfa yn Ystâd Ddiwydiannol Llandochau Fach ym Mro Morgannwg mae gan y cwmni gysylltiadau cryf o fewn y diwydiant sy’n rhoi cyfle i’w gleientiaid wneud y mwyaf o’u buddsoddiad.
Sut i ymuno
buywithconfidence.gov.uk
Gall busnesau sydd wedi bod yn masnachu am o leiaf chwe mis wneud cais i ymuno, a chânt eu harchwilio cyn cael eu derbyn.
Bydd hyn yn cynnwys edrych ar ddull y cwmni o roi gwasanaeth i gwsmeriaid, sicrhau ei fod yn gweithredu o fewn cyfraith defnyddwyr, bod ganddo’r yswiriant priodol ac nad yw’n ffonio pobl ar hap. Os yw busnes yn mynd i gartrefi pobl, neu’n cysylltu’n rheolaidd â phlant neu oedolion bregus, bydd rhaid i gyflogeion gytuno i wiriad GDG.
Os oes problemau gallwn gynghori ar yr hyn sydd angen i gyflawni safon Prynwch â Hyder.