Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Clefydau Heintus a Gwenwyn Bwyd

Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir (GRhR) yn archwilio ac yn adnabod achosion clefydau heintus er mwyn atal iddyn nhw ledaenu ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Germs-growing-on-a-petri-dish

Micro-organeddau fel bacteria neu firysau sy’n achosi clefydau heintus. Gall pobl gael eu heintio yn y ffyrdd isod:

  • Bwyta bwyd sy wedi’i heintio
  • Yfed dŵr sy wedi’i heintio
  • Anadlu aer sy wedi’i heintio
  • Cyswllt â rhywun sy wedi’i heintio
  • Cyswllt ag arwynebau wedi’u heintio
  • Cyswllt ag anifeiliaid
  • Rhai gweithgareddau hamdden, e.e. nofio yn y môr neu mewn llynnoedd
  • Gweithleoedd
  • Cyfarpar, e.e. arferion tatŵio anniogel

Os ydych yn amau bod gennych glefyd heintus, ewch i weld eich meddyg teulu. Efallai bydd angen  i chi ddarparu sampl carthion i’w ddadansoddi.

Os ydych chi’n dangos symptomau, dylech aros nes bod y rhain wedi dod i ben ers 48 awr cyn dychwelyd i’r gwaith neu leoliad gofal plant.

Dweud wrthon ni: Gwenwyn Bwyd

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef gwenwyn bwyd sy’n ymwneud â busnes bwyd o fewn dalgylch y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, cysylltwch â ni i ddweud wrthym.

Os ydych chi’n credu bod sawl achos yn gysylltiedig (dau achos neu ragor yn tarddu o’r un ffynhonnell), cysylltwch â ni.

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

Guidance

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Myfyrwyr

Taflen diogelwch bwyd 2023