Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Y Wobr Dewis Iachus

Datblygwyd y Wobr Dewis Iachus i wobrwyo arlwywyr ledled Cymru sy’n ei gwneud yn haws i’w cwsmeriaid wneud dewisiadau iachus pan maen nhw’n bwyta’r tu allan i’r cartref.

Healthy-Options-AwardMae tair lefel o Wobrau Dewis Iachus:

  • Efydd
  • Arian
  • Aur

Nod y Wobr ydy annog busnesau bwyd i ddarparu dewisiadau iachach i’w cwsmeriaid drwy sefydlu arferion arlwyo iachach a chynyddu’r ddarpariaeth o ffrwythau, llysiau a charbohydradau starsh yn ogystal â lleihau’r defnydd o fraster – yn enwedig braster dirlawn – siwgr a halen.

Maen nhw hefyd yn cydnabod darparu dewisiadau iachus i blant ac yn gwobrwyo hyfforddiant staff a maes hyrwyddo a marchnata dewisiadau iachach.

Ymgeisio am Wobr Dewis Iachus

Mae’r wobr yn agored i bob busnes arlwyo sy’n darparu bwyd i aelodau’r cyhoedd. Dylai’r busnes gydymffurfio’n fras â deddfwriaeth hylendid bwyd, h.y. dylai fod wedi sgorio 3, 4 neu 5 yn y cynllun Sgôr Hylendid Bwyd.

Mae’r wobr yn cael ei hasesu a’i rheoli gan Wasanaethau Rheoliadol a Rennir Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg.

Er mwyn cael eich cymhwyso ar gyfer gwobr, bydd eich busnes yn cael ei asesu gan ddefnyddio meini prawf sy’n seiliedig ar egwyddorion deiet iachus, cytbwys, fel defnyddio cyn lleied â phosibl o fraster, siwgr a halen, darparu digon o ffrwythau a llysiau a seilio prif gyrsiau ar garbohydradau startsh. Byddwn hefyd yn asesu dulliau marchnata a hyrwyddo’r dewis iachach.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymhwyso ar gyfer y Wobr Dewis Iachus ac rydych chi’n cydymffurfio’n fras â deddfwriaeth hylendid bwyd, h.y. bod gennych 3, 4 neu 5 yn y cynllun Sgôr Hylendid Bwyd, croeso i chi gysylltu â ni.

  • Cysylltu â Ni
  • Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU

 

Arweiniad ar y Wobr Dewis Iachus

Mae taflenni i hyrwyddo’r cynllun i fusnesau bwyd ar gael i’w lawrlwytho isod: