Risgiau i iechyd
Gall unrhyw un fynd yn sâl wrth nofio mewn unrhyw ddŵr agored gan y bydd micro-organebau yn bresennol bob amser. Gall sawl factor fwyhau’r risg o fynd yn sâl:
- mae plant a nofwyr dibrofiad yn fwy tebygol o lyncu dŵr yn ddamweiniol
- mae'r rhai sydd â nam ar eu system imiwnedd yn fwy agored i haint
- mae'r rhai sy'n nofio mewn afonydd ac aberoedd yn fwy tebygol o fynd yn sâl
- gall glaw trwm olchi bacteria niweidiol o dir amaethyddol, ardaloedd trefol a charthffosiaeth i afonydd, moroedd a dyfroedd ymdrochi ac effeithio ar ansawdd dŵr
Lleihau'r risg o fynd yn sâl
Mae nifer o bethau y gallwch eu gwneud i leihau'r risg o salwch wrth nofio mewn dyfroedd agored.
Cyn i chi nofio
Mae nifer o bethau y dylech eu hystyried gan gynnwys:
- dewis y lleoliad yn ofalus ac osgoi ymdrochi ar ddiwrnodau risg uwch megis ar ôl glaw trwm/stormydd, mewn dŵr gyda gordyfiant algâu gwyrddlas neu lysnafedd mewn dyfroedd croyw
- Cyn nofio, gorchuddio briwiau, crafiadau neu friwiau gyda phlastr gwrth-ddŵr
- gwisgo dillad amddiffynnol priodol fel siwt wlyb, menig neu esgidiau amddiffynnol
Tra byddwch chi'n nofio
Cofiwch:
- osgoi dŵr nant rhag sy’n rhedeg ar draws y traeth
- ceisio osgoi llyncu neu dasgu dŵr i'ch ceg
- ddilyn cyngor diogelwch lleol
Ar ôl nofio
Ar ôl nofio, gallwch leihau'r risg o fynd yn sâl trwy:
- lanhau'ch dwylo'n drylwyr â sebon a dŵr gan sicrhau bod yr holl dywod gwlyb yn cael ei dynnu o'ch dwylo cyn bwyta neu drin bwyd
- lanhau toriadau neu sgraffiniadau yn drylwyr gan ddefnyddio sebon a dŵr
- ddal eich siwt wlyb yn ofalus ar ôl ei defnyddio. Ar ôl nofio, golchwch hi â dŵr glân cyn gynted â phosib.
Golchwch eich dwylo gyda sebon a dŵr bob amser ar ôl trin neu lanhau eich siwt wlyb. Gadewch i'r siwt sychu'n drylwyr cyn ei hailddefnyddio
Beth i'w wneud os byddwch yn mynd yn sâl
Os byddwch yn mynd yn sâl gyda dolur rhydd neu unrhyw symptomau eraill, ceisiwch gymorth meddygol a rhowch wybod iddynt eich bod wedi bod yn nofio mewn dŵr agored.
Peidiwch â nofio eto tan eich bod yn glir o symptomau dolur rhydd am o leiaf 48 awr, neu am gyfnod hirach os bydd meddyg yn eich cynghori i’w wneud.
Mapiau Gorlifoedd Stormydd
Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi datblygu map sy'n darparu gwybodaeth bron mewn amser real am weithgarwch gorlifoedd stormydd mewn dyfroedd ymdrochi dynodedig.Nid yw'n rhoi gwybodaeth am ansawdd dŵr, ond mae'r map yn adnodd arall y gall pobl ei wirio i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch pryd a ble i nofio.
Map gorlifoedd storm | Dŵr Cymru Welsh Water (dwrcymru.com)