Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Tai gwag Pen-y-bont ar Ogwr

 

 

Grantiau Eiddo Gwag Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Mae dau fath o Grant Tai Gwag ar gael ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

  • Grant Tai Eiddo Gwag
  • Grant Cartrefi yn y Dref  

Nod y ddau gynllun grant yw dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd a chynyddu'r cyflenwad o dai rhent fforddiadwy y mae mawr eu hangen ar draws y fwrdeistref sirol. 

Grant Tai Eiddo Gwag

I wneud cais, rhaid i chi fod yn berchen ar eiddo gwag dros 10 oed ac yn wag am o leiaf 6 mis. Rhaid i chi hefyd gytuno i amodau'r grant. Mae’r rhain yn cynnwys rhentu’r eiddo am 3 blynedd yn unol â pholisi gosod y Cyngor a dod yn gofrestredig gyda Rhentu Doeth Cymru ar ôl cwblhau’r gwaith.

Mae uchafswm y grant sydd ar gael yn dibynnu ar y gwaith sy’n cael ei wneud:

  • Hyd at £10,000 neu 75% o’r gost gymwys fesul uned ar gyfer addasiad tebyg at ei debyg (megis tŷ dwy lofft yn cael ei ddefnyddio eto fel tŷ dwy lofft).
  • Hyd at £15,000 neu 75% o’r gost gymwys fesul uned ar gyfer trosi’n fwy o unedau (megis tŷ dwy lofft yn cael ei ddefnyddio eto fel dwy fflat un llofft)
  • Hyd at £9,000 neu 75% o’r gost gymwys fesul uned ar gyfer trosi’n unedau sydd â chyfleusterau a rennir (megis unedau tebyg i un ystafell sy’n rhannu cyfleusterau cegin/ystafell ymolchi neu’r ddau)

Bydd y Cyngor yn asesu pa waith sydd ei angen i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd mewn ymgynghoriad â Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Ni ddylai'r gwaith fod wedi dechrau cyn i'r cais gael ei gymeradwyo a rhaid ei gwblhau o fewn chwe mis i ddyddiad cymeradwyo'r grant. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Canllaw i Berchnogion Eiddo i Dai Gwag’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Sut i wneud cais?

I fynegi eich diddordeb yn y cynllun, llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb a’i dychwelyd i: 

emptypropertyassistance@bridgend.gov.uk

Strategaeth Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, CF31 4WB 

Mae rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gael yma. 

Grant Cartrefi yn y Dref

Mae'r grant hwn yn helpu i fynd i'r afael â lleoedd gwag yng Nghanol y Dref a chyfrannu at adfywio Pen-y-bont ar Ogwr. 

I fod yn gymwys ar gyfer y grant, mae'n rhaid i chi fod yn berchen ar eiddo sy'n addas ar gyfer ei addasu'n breswyl. Rhaid bod yr eiddo hwn wedi bod yn wag am o leiaf 6 mis ac yn hŷn na 10 mlwydd oed. Rhaid i chi hefyd gytuno i amodau'r grant. Mae’r rhain yn cynnwys rhentu’r eiddo am 3-5 mlynedd yn unol â pholisi gosod y Cyngor a chofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru ar ôl cwblhau’r gwaith.

Mae uchafswm y grant sydd ar gael yn dibynnu ar y gwaith sy’n cael ei wneud:

  • 85% o’r gost, hyd at uchafswm o £10,000, i greu mynedfa ar wahân (os nad oes un eisoes yn bresennol) i’r eiddo preswyl
  • 85% o unrhyw waith wedi'i nodi/argymell o ganlyniad i arolwg acwstig
  • 60% o’r gost, hyd at uchafswm o £30,000 yr uned o lety, ar gyfer trosi lle gwag yn uned breswyl

Bydd y Cyngor yn penderfynu ar y gwaith sydd ei angen i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd. Ni ddylai'r gwaith fod wedi dechrau cyn i'r cais gael ei gymeradwyo. Unwaith y caiff ei gymeradwyo, rhaid i'r gwaith ddechrau o fewn 6 mis a chael ei gwblhau o fewn 12 mis i ddyddiad cymeradwyo'r grant. Gellir cyfuno’r grant hwn â grantiau eraill sydd ar gael.Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yng Nghynghorau Pen-y-bont ar Ogwr, ‘Property Owners Guide to Empty Homes’.

Sut i wneud cais

I fynegi eich diddordeb yn y cynllun llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb a’i dychwelyd i: emptypropertyassistance@bridgend.gov.uk

Strategaeth Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, CF31 4WB

Am ragor o wybodaeth ar wefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, cliciwch yma.

Benthyciadau Eiddo Gwag Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr 

A ydych yn berchen ar eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr? Gallech fod yn gymwys i gael cyfran o’r arian sydd ar gael drwy gynllun Troi Tai’n Gartrefi Llywodraeth Cymru.

Mae benthyciadau di-log ar gael i dalu cost atgyweiriadau a gwelliannau i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd, naill ai i’w werthu ymlaen neu i’r farchnad rhentu. Gall cyllid benthyciad helpu i adnewyddu neu drosi eiddo preswyl a masnachol yn amodol ar gymeradwyaeth caniatâd cynllunio perthnasol. 

I wneud cais am fenthyciad, rhaid i chi fod yn berchennog neu'n edrych i brynu eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf chwe mis. 

Mae uchafswm o £25,000 fesul eiddo/uned, hyd at £150,000 fesul ymgeisydd, ar gael. Mae swm y dyfarniad wedi’i gapio ar fenthyciad o 80% i werth, yn seiliedig ar unrhyw forgais presennol ynghyd â’r benthyciad Troi Tai’n Gartrefi y gwnaed cais amdano, yn erbyn gwerth presennol yr eiddo.

Rhaid i unrhyw fenthyciad a gymeradwyir gael ei warantu'n ariannol yn erbyn yr eiddo trwy naill ai arwystl cyntaf neu ail arwystl. Os oes gan yr eiddo forgais sy'n bodoli eisoes, bydd y Cyngor angen caniatâd y benthyciwr i sicrhau'r arwystl. Gall y Cyngor ystyried eiddo arall fel sicrwydd benthyciad. 

Telir cyllid mewn dau randaliad: 50% ymlaen llaw i ddarparu cyfalaf gweithio a 50% pan ystyrir bod cynnydd rhesymol wedi'i wneud.  Cytunir ar hyn a'i amlinellu yn y Cytundeb Cyfleuster Benthyca. Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, dylai'r eiddo fodloni'r Safon Troi Tai'n Gartrefi. 

Rhaid ad-dalu'r benthyciad yn llawn o fewn 2 flynedd os yw'r eiddo i'w werthu neu 5 mlynedd os yw i'w rentu.
Sylwch: Bydd ffi gwneud cais am fenthyciad a bydd gofyn i chi ddangos eich gallu i ad-dalu'r benthyciad trwy eich cais. 
Mae rhagor o wybodaeth am y benthyciad ar gael yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ‘Property Owners Guide to Empty Homes’.

Sut i wneud cais

I fynegi eich diddordeb yn y cynllun llenwch ffurflen Mynegi Diddordeb a’i dychwelyd i: 
emptypropertyassistance@bridgend.gov.uk

Strategaeth Tai, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, CF31 4WB.

I gael rhagor o wybodaeth ar wefan Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, cliciwch yma.