Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Rhentu Doeth Cymru

Mae Rhentu Doeth Cymru'n gynllun newydd a fydd yn gwella safonau yn y sector rhentu preifat trwy ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid ac asiantau rheolaethol i gynnal hyfforddiant i sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau. 

Bydd hyn yn helpu:

  • Rhwystro landlordiaid ac asiantau twyllodrus, a hyd yn oed troseddol, rhag bod yn rhan o reoli a rhentu tai.
  • Amddiffyn tenantiaid ac yn cefnogi landlordiaid ac asiantau da trwy eu helpu i fod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau a'u rhwymedigaethau cyfreithiol, gan godi enw da'r sector.
rentsmart

 

Lansiwyd gwaith i orfodi’r Ddeddf ar 23 Tachwedd 2016, ac anogir y rheiny sydd heb gydymffurfio â'r gyfraith eto i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol i gofrestru cyn gynted â phosibl oherwydd bod y broses gofrestru ar-lein yn syml ac ond yn cymryd 15 munud, ond gall cais trwyddedu gymryd hyd at wyth wythnos i’w brosesu.

Rhentu Doeth Cymru

Arolwg tenantiaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu RHE Global i gynnal gwerthusiad o Rhentu Doeth Cymru (RSW). Os ydych chi'n denant sy'n byw yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, fe’ch gwahoddir i gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn. Mae'r arolwg hwn yn benodol ar gyfer tenantiaid unigol ac yn ceisio deall eu profiadau, effeithiolrwydd cymorth RSW i denantiaid, ac unrhyw effaith y mae wedi'i chael ar gyflwr y tai. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r arolwg yw 26.06.2024 Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr arolwg, cysylltwch â housing@rheglobal.com.

Arolwg landlordiaid

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu RHE Global i gynnal gwerthusiad o Rhentu Doeth Cymru (RSW). Os ydych chi'n landlord neu asiant gosod eiddo sy'n gweithredu yn y sector rhentu preifat yng Nghymru, fe’ch gwahoddir i gymryd rhan drwy gwblhau'r arolwg ar-lein hwn. Mae'r arolwg hwn yn benodol ar gyfer landlordiaid ac asiant gosod tai ac yn ceisio deall eu profiadau, yr heriau a wynebant ac unrhyw effaith y mae RSW wedi'i chael ar eu gwaith a'u harferion busnes. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r arolwg yw 12.06.2024 Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am yr arolwg, cysylltwch â housing@rheglobal.com

Canllawiau

Mae Rhan 4 Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn nodi ei bod yn gyfrifoldeb ar landlord i ddarparu anheddau sy’n ddiogel ac yn addas i bobl fyw ynddynt (FfIFYG). Bydd atal unrhyw un o’r 29 o faterion neu amgylchiadau dan sylw rhag codi yn eich eiddo rhent yn osgoi’r potensial y bydd deiliaid contract yn byw dan amodau anaddas, yn ogystal â bod y dull mwyaf cost-effeithiol i chi.

Llyfrgell adnoddau Rhentu Doeth Cymru

Gallwch hefyd weld ein fideo Rhentu Doeth Cymru byr i gael mwy o wybodaeth am y cynllun: