Gwneud cwyn
Cam 1
Siaradwch â’ch landlord / asiant a thynnu eu sylw at y broblem. Gofynnwch iddyn nhw drefnu’r gwaith atgyweirio o fewn cyfnod rhesymol. Efallai ei bod yn werth dweud wrthyn nhw y bydd yn rhaid i chi gwyno i Adran Iechyd yr Amgylchedd os nad ydy’r gwaith yn cael ei gwblhau.
Os na chaiff y gwaith ei gwblhau, ewch i Gam 2.
Cam 2
Cysylltwch â ni a gallwn ni archwilio’r mater drosoch chi. Bydd angen eich manylion chi arnon ni yn ogystal ag enw a manylion cyswllt eich landlord / asiant, a chrynodeb o’r broblem. Sylwch, os ydych chi'n denant i'r Cyngor, mae'n rhaid i chi gyfeirio'ch cwyn at eich gwasanaeth Tai Cyngor lleol.
Byddwn ni’n cysylltu â’r landlord / asiant ac yn eu hysbysu ein bod wedi derbyn cwyn gan eu tenant, yna byddwn ni’n trefnu ymweld â chi ac archwilio’r tŷ am beryglon posibl.
Os bydd peryglon yn cael eu pennu, byddwn yn eu hasesu, a lle bo’n addas, bydd gofyn i’r perchennog gyflawni’r gwaith angenrheidiol i leihau’r perygl i lefel dderbyniol.
Os na fydd y perchennog yn cytuno i gwblhau’r gwaith o fewn amserlen resymol, efallai byddwn ni’n gweithredu pwerau gorfodaeth yn unol â Deddf Tai 2004 i sicrhau bod y gwaith atgyweirio’n cael ei wneud.
Adrodd Ar-lein