Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016
Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i rym ar 1 Rhagfyr 2022, gan effeithio ar landlordiaid preifat a chymdeithasol, dyma'r newid mwyaf i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau.
Fe'i datblygwyd i ddiogelu buddiannau'r landlordiaid a'r tenantiaid, a bydd y ddeddf hon yn gwella sut mae cartrefi yng Nghymru yn cael eu rhentu, eu rheoli a sut bydd pobl yn byw ynddynt. Fe wnaed y newidiadau hyn i wneud pethau'n haws trwy symleiddio darnau cymhleth a fodolai o’r ddeddfwriaeth a rhoi un fframwaith cyfreithiol clir yn eu lle.
Beth sydd wedi newid?
Bellach gelwir Cytundebau Tenantiaeth yn 'Contractau Meddiannaeth'
O dan y Ddeddf, bydd y rhan fwyaf o bobl nawr yn rhentu eu cartref o dan Gontract Meddiannaeth ysgrifenedig (disodli yr hen gytundebau tenantiaeth a thrwydded) a chyfeirir bellach at denantiaid fel 'deiliaid contract'. Mae dau brif fath o gontractau meddiannaeth y gellir eu rhoi bellach:
1. Contract safonol - y prif gontract ar gyfer y sector rhentu preifat.
2. Contract diogel i ddisodli tenantiaethau diogel a roddwyd gan awdurdodau lleol a thenantiaethau sicr a roddwyd gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCCau).
Mwy o Hawliau Olyniaeth
Bydd hyn yn rhoi'r hawl i drosglwyddo'ch cartref pan fyddwch yn marw. Er enghraifft, efallai bod gan rywun sy’n byw gyda deiliad y contract yn yr annedd, ond nad yw wedi'i enwi ar y contract, yr hawl i barhau â'r contract os bydd deiliad y contract yn marw.
Dull teg a chyson i bawb wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gellir ychwanegu neu ddileu Deiliaid Contract (y cyfeiriwyd atynt yn flaenorol fel tenantiaid) heb yr angen i ddod â'r contract i ben.
Yn wahanol i'r sefyllfa flaenorol, mae'r Ddeddf yn galluogi pobl sy'n rhentu gyda'i gilydd ar sail contract ar y cyd i gael eu hychwanegu at neu eu tynnu o gontractau meddiannaeth heb fod angen dod â'r contract i ben i bob deiliad contract.
Gwell Diogelwch Mae'r Ddeddf wedi ei chynllunio i wella diogelwch i ddeiliaid contract drwy gynyddu'r cyfnod hysbysiad 'dim bai' o ddeufis i isafswm o chwe mis o rybudd. Bydd hyn yn rhoi o leiaf 12 mis o sicrwydd i bob deiliad contract ar ddechrau eu tenantiaeth ac amserlen realistig i sicrhau cartref newydd.
Mwy o Amddiffyniad rhag Troi Allan Dialgar
O dan y Ddeddf, ni all landlordiaid droi deiliaid contract allan sy'n gofyn am waith atgyweirio neu gwyno am gyflwr peryglus mewn tŷ (e.e., boeler wedi torri). Felly, mae'n rhaid i landlordiaid gadw eu heiddo mewn cyflwr da ac yn ddiogel i'w meddiannu. Gall y llysoedd wrthod hawliad meddiant landlord os oes eiddo ag angen gwaith atgyweirio neu yr ystyrir ei fod yn anaddas. Os caiff ei wrthod, ni all landlord gyflwyno hysbysiad meddiant arall am o leiaf chwe mis.
Bydd Landlordiaid yn gallu adfeddiannu eiddo y cefnwyd arno heb fod angen gorchymyn llys.
Mae'r Ddeddf wedi cyflwyno proses haws i landlordiaid gymryd meddiant o'u heiddo rhent yn ôl pan fyddant yn credu bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr eiddo. Mae'n rhaid i landlordiaid fod yn sicr bod deiliad y contract wedi cefnu ar yr eiddo ac felly mae'n rhaid cynnal ymchwiliadau o hyd. Fodd bynnag, os y cefnwyd arno, gellir cyflwyno hysbysiad rhybuddio o bedair wythnos yn hytrach na gorfod cael gorchymyn llys.
Rhaid i eiddo rhent fod mewn cyflwr da ac yn Ffit I Fod Yn Gartref (FfIFYG)
O dan Adran 91 y Ddeddf, mae gofynion wedi'u rhoi ar landlordiaid i sicrhau ar gychwyn ac yn ystod cyfnod contract meddiannaeth, bod yr eiddo yw FfIFYG. Mae 29 o faterion ac amgylchiadau fydd yn cael eu hystyried wrth benderfynu os yw annedd yw FfIFYG. Mae'r rhain bellach yn cynnwys gofynion ar gyfer:
- Tystysgrif Diogelwch Trydanol ddilys bob 5 mlynedd (neu'n gynt lle mae archwiliad trydanol blaenorol wedi gwneud argymhelliad o'r fath)
- Larymau carbon monocsid ym mhob ystafell gydag offer llosgi nwy, olew neu danwydd solet (gan gynnwys boeleri nwy)
- Larwm mwg cydgysylltiedig ar y prif gyflenwad trydan ar bob llawr o'r annedd.
Sylwer: Ar gyfer tenantiaethau a gafodd eu troi'n gontract meddiannaeth safonol ar 1 Rhagfyr 2022 mae gan landlordiaid tan 1 Rhagfyr 2023 i drefnu profion diogelwch trydanol a gosod larymau mwg (cyn belled â bod y gosodiad trydanol blaenorol yn ddiogel, ac ni ystyrir bod risg uchel o dân yn yr eiddo). Os yw'r contract sydd wedi'i drosi yn dod i ben cyn y dyddiad hwn, nid yw'r eithriad yn berthnasol mwyach, a bydd angen trefnu'r gwaith yn unol â hynny.
Ar gyfer pob contract o 1 Rhagfyr 2022, rhaid cael larwm carbon monocsid ym mhob ystafell berthnasol; nid oes eithriad i'r gofyniad hwn hyd yn oed os oes gennych gontract a droswyd.
Mae'r rheoliadau Ffitrwydd i Fod yn Gartref yn helpu landlordiaid i gynnal anheddau i'w hatal rhag mynd yn anniogel. Rhaid i ddeiliad contract roi gwybod i'w landlord yn gyntaf os yw'n poeni nad yw eiddo'n cwrdd â'r gofynion. Unwaith y byddant yn gytûn, dylai'r landlord weithredu i ddatrys unrhyw faterion.
Os yw'r landlord yn anghytuno, y llys fydd yn penderfynu yn y pen draw a yw eiddo'n anaddas yn seiliedig ar y rheoliadau ac nid Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir. Felly, bydd gofyn i ddeiliaid contract ofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol. Gall y llys orchymyn y landlord i weithredu drwy gwblhau gwaith atgyweirio ac o bosib ddigolledu deiliad y contract. I gael gwybod sut a phryd i gwyno i'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, cliciwch yma.
Beth mae’r gyfraith newydd yn ei olygu i mi (Tenantiaid)?
Fel tenant, nod Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yw cynnig mwy o ddiogelwch a sicrwydd trwy wella eich hawliau.
O 1 Rhagfyr 2022, bydd y rhan fwyaf o denantiaid a thrwyddedeion yn newid yn awtomatig draw i'r contract perthnasol. Bydd tenantiaid presennol yn derbyn eu contractau meddiannaeth newydd o fewn chwe mis cyn 1 Mehefin 2023. Ar gyfer pob contract rhaid i landlord roi copi o'r contract meddiannaeth i’r deiliad contract (sef y tenant yn flaenorol) o fewn 14 diwrnod i'r 'dyddiad meddiannu' (y diwrnod yr oedd hawl gan ddeiliad y contract i symud i mewn).
Yr unig beth y mae angen i chi ei wneud yw darllen eich contract ac ymgyfarwyddo â'ch hawliau a'ch cyfrifoldebau.
Beth mae’r gyfraith newydd yn ei olygu i mi (Landlordiaid)?
Fel landlord, lluniwyd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn helpu i ddiogelu buddiannau landlordiaid a gwella eu gallu i adennill meddiant o'u heiddo rhent. Bydd unrhyw gytundeb tenantiaeth presennol yn cael ei drosi yn awtomatig i gontract newydd, a rhaid rhoi copi o'r contract meddiannaeth i ddeiliad y contract erbyn 1 Mehefin 2023.
Bydd angen i unrhyw ddeiliaid contract meddiannaeth newydd o 1 Rhagfyr 2022 lofnodi'r contract meddiannaeth a rhaid iddynt gael copi ohono o fewn 14 diwrnod i'r 'dyddiad meddiannu' (y diwrnod yr oedd hawl gan ddeiliad y contract i symud i mewn).
Mae pob contract meddiannaeth bellach yn ysgrifenedig, er mwyn diogelu buddiannau pob plaid ac er mwyn helpu i atal anghydfodau dros yr hyn a gytunwyd. Gellir lawrlwytho contractau model oddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma a gellir ei ddiwygio i gyd-fynd ag unrhyw drefniant rhentu.
Cyfleoedd Hyfforddiant
Mae Rhentu Doeth Cymru (RhDC) wedi datblygu hyfforddiant i landlordiaid ac asiantau ar Ddeddf Rhentu Cartrefi (2016) Cymru a rhaid ei gwblhau er mwyn cydymffurfio â RhDC (lle rhoddwyd y drwydded ar ôl Gorffennaf 2020). Gall y cwrs hwn helpu i wella eich dealltwriaeth o'r newidiadau hyn ac osgoi camgymeriadau costus. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru.
Gwybodaeth ychwanegol
Cwestiynau cyffredin
Darllen yr atebion i rai Cwestiynau Cyffredin