Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Gwyliwch rhag 'wardeniaid anifeiliaid' ffug yn mynd o ddrws i ddrws

Rydym yn annog trigolion i roi gwybod am unigolion amheus yn mynd o ddrwsDoorstep seller knocking i ddrws, yn ymddwyn fel wardeniaid anifeiliaid y cyngor.

Hydref 6ed, 2022

 

Mae un o drigolion lleol wedi cysylltu â Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu o Lanedern, yn adrodd am ddyn yn gwisgo gwisg warden cŵn gyda ‘warden cŵn Caerdydd’ wedi’i argraffu ar y crys. Gofynnodd y dyn iddi weld ei chi. Diolch byth, gofynnodd am gael gweld ID a gadawodd y dyn.

Gallwn gadarnhau na ymwelodd ein wardeniaid anifeiliaid â'r preswylydd. Rydym bob amser yn cario cerdyn adnabod ac mae'n rhaid i ni ddangos hyn os gofynnir amdano.

Os bydd unrhyw un yn ymweld â chi yn eich cartref yn gofyn am gael gweld eich ci, rydym yn eich annog i roi gwybod i'r unigolyn y byddwch yn cysylltu â thîm iechyd anifeiliaid y cyngor i gadarnhau pwy yw'r ymwelydd. Gallwch gysylltu â ni ar 0300 123 6696 i wirio hunaniaeth yr unigolyn.

Os oes unrhyw un wedi derbyn ymweliad tebyg, a fyddech cystal â chysylltu â Heddlu De Cymru ar 101 neu Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144. Bydd gwybodaeth a anfonir at y ddau sefydliad yn arwain at hysbysu ein timau Diogelu ac Iechyd Anifeiliaid am y mater.