Afiechydon Anifeiliaid
Mae monitro anifeiliaid am symptomau afiechydon, a meithrin arferion gorau ffermio’n hanfodol wrth leihau risg ac arbed afiechydon rhag ymledu.
Os ydych chi’n amau achos o afiechyd hysbysadwy fel clwy’r traed a’r genau neu ffliw’r adar etc., rhaid i chi roi gwybod i Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Os oes unrhyw amheuaeth, gofynnwch am gyngor gan filfeddyg.
Gall swyddogion roi cyngor i chi, a byddan nhw’n gweithredu yn y modd cywir i atal lledaeniad yr afiechyd a sicrhau bod y trefnweithiau addas yn cael eu dilyn.
Mae taflenni arweiniad a gwybodaeth ar afiechydon anifeiliaid ar gael ar wefan lllywodraeth Cymru, wrth glicio ar y linc isod:
Clefydau Anifeiliaid
Canllawiau
Y Tafod Glas
Mae seroteip y tafod glas 3 (BTV-3) wedi ei adnabod mewn tair dafad a gafodd eu symud i Wynedd o ddwyrain Lloegr.
Dyma’r tro cyntaf i’r Tafod Glas-3 gael ei ddarganfod yng Nghymru ac mae’n dilyn i achosion BTV-3 gael eu canfod yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.
Mae ffermwyr yn cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am y clefyd ac ymarfer cyrchu da byw yn ddiogel. Mae’n ofyniad cyfreithiol i adrodd am achosion a amheuir i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268.
Mae'r tafod glas yn cael ei achosi gan firws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rywogaethau penodol o wybed sy'n brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas).
Nid yw'r tafod glas yn effeithio ar bobl na diogelwch bwyd.
Ruminant Health & Welfare - Y diweddaraf am firws y Tafod Glas