Trefn Trwyddedu Amgylcheddol
I sicrhau ein bod yn amddiffyn yr amgylchedd ac ansawdd yr aer, mae gofyn cael trwydded ar gyfer rhai gweithgareddau, fel cynhyrchu paent neu sych-lanhau.
Mae’n drosedd gweithredu heb drwydded o’r fath. Mae’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn rheoleiddio gwahanol fathau o safleoedd, yn cynnwys gweithfeydd gwydr, ffowndrïau, gorsafoedd petrol, malwyr concrit, melinau coed a gwneuthurwyr paent.
Rhestrir y gweithgareddau hyn yn adran Rheolau Trwyddedu Amgylcheddol ar wefan yr Adran Bwyd a Materion Gwledig
I gael rhagor o wybodaeth am drwyddedau Amgylcheddol a gyhoeddwyd gan Bro Morgannwg, Caerdydd a Phen-y-Bont ar Ogwr neu i weld y dogfennau cofrestr gyhoeddus, cysylltwch â ni.
Arweiniad Pellach