Dirwy enfawr o £68,000 i landlord yng Nghaerdydd
Mae Mulberry Real Estate Ltd, a'i gyfarwyddwr, Mr David Bryant, sy'n landlordiaid eiddo yng Nghaerdydd, wedi cael dirwy am fethu â gwneud gwaith atgyweirio angenrheidiol i ddrysau tân, ffenestri dianc a cheginau ac am fethu ag ail-drwyddedu dau eiddo.
Awst 4ydd, 2023
Cafodd Mulberry Real Estate Ltd ddirwy o £31,999 a chafodd Mr Bryant ddirwy o £36,300.
Ym mis Gorffennaf a mis Hydref 2021, daeth dwy drwydded Tai Amlfeddiannaeth gan gwmni Mr Bryant i ben ar gyfer eiddo ar Alfred Street, ac Arabella Street, ym Mhlasnewydd. Cafodd y ddau eiddo eu trwyddedu gan y cyngor ym mis Hydref 2016. Roedd y trwyddedau yn cynnwys amodau oedd yn ei gwneud yn ofynnol i'r landlord wneud gwaith i'r drysau tân, ffenestri dianc, ac i'r ceginau yn y ddau eiddo o fewn 3 mis i ddyddiad cyhoeddi'r drwydded.
Yn 2021, pan ddaeth y trwyddedau i ben, er gwaethaf cyswllt ar sawl achlysur gan y cyngor, ni dderbyniwyd unrhyw gais i adnewyddu'r naill drwydded na'r llall ar gyfer yr eiddo hyn.
Yna cynhaliwyd archwiliadau ym mis Hydref 2022 oedd yn cadarnhau bod angen trwydded Tai Amlfeddiannaeth newydd ar y ddau eiddo ac nad oedd y gwaith y dylid fod wedi'i wneud o dan delerau trwydded 2016 wedi cael ei wneud.
Mynychodd cyfreithwyr sy'n gweithredu ar ran Mulberry Real Estate Ltd a Mr David Bryant, Lys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, 21 Gorffennaf, a chynnig pleon euog i 11 o droseddau, yn cynnwys methu â thrwyddedu dau eiddo fel Tai Amlfeddiannaeth.
Mae'n ofynnol i Dai Amlfeddiannaeth gael eu trwyddedu gan y cyngor bob pum mlynedd, er mwyn sicrhau bod yr eiddo hyn yn ddiogel i denantiaid fyw ynddynt.
Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai yng Nghyngor Caerdydd: "Mae'r rhan fwyaf o landlordiaid yng Nghaerdydd yn darparu gwasanaeth da i'w preswylwyr ac yn sicrhau bod eu heiddo rhent mewn cyflwr da ac yn cydymffurfio â'r holl ddeddfwriaeth berthnasol.
"Yn anffodus, mae yna rai nad ydynt yn gwneud hyn, ac yn yr achosion hyn, mae camau’n cael eu cymryd yn eu herbyn. Dywedodd yr Ynadon yn y llys eu bod wedi eu syfrdanu gan yr hyn a gyflwynwyd gan y cyngor. Cafodd y myfyrwyr eu rhoi mewn perygl. Nid oedd y gwaith angenrheidiol wedi'i gwblhau ers saith mlynedd.
"Rwy'n gobeithio bydd y ddedfryd hon yn anfon neges gadarn at landlordiaid twyllodrus, bod y llys yn cymryd y materion hyn o ddifrif, fel sy'n cael ei adlewyrchu gan lefel y dirwyon a roddwyd."
Cafodd Mulberry Real Estate Ltd ddirwy o £31,995 a gorchymyn i dalu tâl dioddefwr o £2,000 a chostau o £251.86.
Cafodd Mr Bryant ddirwy o £36,300 a gorchymyn i dalu tâl dioddefwr o £2,000 a chostau o £251.86.
Rhoddodd y llys gyfarwyddyd bod yn rhaid talu'r holl ddirwyon a chostau erbyn diwedd mis Hydref eleni.