Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Rhybudd i drigolion am sgamiau dros gyfnod y Nadolig

Mae'r Nadolig yn amser prysur o'r flwyddyn gyda digon o bethau sy'n tynnu’r sylw, sy'n gallu golygu nad ydym mor effro i beryglon sgamiau ag y byddem felScam call 2 arfer

Rhagfyr 14eg, 2023

Y cyngor gorau yw i beidio â rhuthro i unrhyw beth oherwydd gweithredu ar ysgogiad yw'r hyn y mae'r twyllwr yn dibynnu arno. Rhaid ymddiried yn eich greddf os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn a pheidiwch â gwneud penderfyniadau sydyn. Mae sgamiwr eisiau creu teimlad o frys y bydd rhywbeth negyddol yn digwydd os na wnewch chi fel maen nhw'n ei ddweud.

Mae Gwadanaethau Rheoliadol a Rennir yn ymwybodol o sgam cyfredol lle mae preswylwyr yn cael eu galw'n ddiwahoddiad dros y ffôn mewn perthynas â'u huned Telecare. Nid yw'r galwadau hyn yn cael eu gwneud ar ran Telecare, ac rydym yn annog preswylwyr i fod yn ymwybodol er mwyn osgoi dioddef i’r galwadau sgam hyn.

Peidiwch â phrynu unrhyw nwyddau neu wasanaethau gan alwyr digroeso. Rhowch rybudd 'dim galwyr digroeso' ar eich drws oherwydd, os caiff hyn ei anwybyddu, byddwch yn gwybod taw bwriad y galwr yw gwneud drygioni.

Gall e-byst sgam a negeseuon testun honni bod danfoniad ar y ffordd neu fod rhyw oedi a byddant yn gofyn i chi glicio ar ddolen neu ffonio rhif. Stopiwch a meddwliwch. Cymerwch eich amser i'w wirio a'i ddileu os nad yw'n ddilys.

Byddwch yn wyliadwrus o alwadau ffôn allan o'r glas sy'n gofyn i chi am wybodaeth. Peidiwch byth â datgelu eich manylion personol neu fancio i unrhyw un hyd yn oed os ydynt yn honni eu bod yn ffonio o'ch banc.Cofiwch, os yw'n swnio'n rhy dda i fod yn wir yna mae'n debyg ei fod!

Os ydych yn derbyn galwadau sgam neu niwsans, cysylltwch â'ch darparwr ffôn i weld os allant gynnig rhai cyfleusterau i chi atal galwadau diangen (efallai y bydd Tîm Diogelu Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn gallu darparu unedau blocio galwadau ffôn mewn achosion perthnasol).

Os oes amheuaeth - siaradwch.  Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo fel ffrind neu gymydog ac ewch i gael ail farn.  Meddyliwch ddwywaith a gofynnwch am gyngor gan Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1144.

Os ydych chi'n teimlo dan fygythiad neu'n ofnus ffoniwch yr heddlu ar 999.