Menter i hyrwyddo perchnogaeth cŵn diogel a chyfrifol yn cael ei lansio ym Morgannwg Ganol
Wedi'i arwain gan Heddlu De Cymru, ac ar y cyd ag asiantaethau partner lluosog gan gynnwys awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, mae'r prosiect LEAD (Ymwybyddiaeth Amgylcheddol Leol ar Gŵn) wedi'i gynllunio i wella ymgysylltiad â pherchnogion cŵn o bob brid.
Nod y broses ragweithiol yw lleihau’r risg i gymunedau sydd wedi codi drwy berchnogaeth cŵn anghyfrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol peryglus ci 1 (YG), drwy ymgysylltu, addysg ac ymyrraeth gynnar.
Bydd LEAD yn galluogi partneriaid i rannu gwybodaeth a rhoi ystod o fesurau ar waith megis llythyrau rhybuddio, contractau ymddygiad derbyniol ac, yn y pen draw, camau gorfodi os yn briodol.
Dywedodd yr Arolygydd Jon Duckham: “Bu nifer o achosion trasig o ymosodiadau gan gŵn yn ddiweddar, gan gynnwys rhai yma yng Nghymru, sydd wedi arwain at fwy o ymwybyddiaeth o ymosodiadau gan gŵn a’r angen i berchnogion gael eu haddysgu a bod yn gyfrifol.
“Bydd y fenter hon yn ein galluogi ni, ochr yn ochr â’n partneriaid, i weithio gyda’n cymunedau i wella’r addysg honno yn y gobaith o atal ymosodiadau gan gŵn a all fod yn gwbl ddinistriol i bawb dan sylw. Mae perchnogaeth cŵn yn dod â chyfrifoldebau, ac mae’r rhai nad ydynt yn cymryd eu cyfrifoldebau yn effeithio’n ddifrifol ar les eu hanifeiliaid anwes ac yn peri risg gwirioneddol i’r gymuned.
“Y gobaith yw y bydd cyflwyno’r cynllun LEAD yn anfon neges glir ein bod ni a’n partneriaid wedi ymrwymo 100% i ddiogelu’r cyhoedd a sicrhau bod camau gorfodi yn cael eu cymryd yn erbyn perchnogion anghyfrifol sy’n methu ag ymgysylltu ag ymyrraeth partneriaid.”
Bydd menter LEAD yn cael ei threialu ym mwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr o Ragfyr 4ydd, gyda'r nod o gyflwyno'r cynllun ar draws de Cymru maes o law.
Mae rhagor o wybodaeth am berchnogaeth cŵn cyfrifol a deddfwriaeth bwysig ar gael yma.