Wedi syrthio ar ei hôl hi gyda’ch rhent oherwydd COVID?
Mae grant newydd ar gael a allai eich helpu. Os ydych chi’n rhentu eich cartref ac wedi syrthio ar ei hôl hi gyda’ch rhent oherwydd COVID-19, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer grant newydd gan Lywodraeth Cymru.
Chwefror 11eg, 2022
Mae’r Grant Caledi i Denantiaid yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord neu asiant, er mwyn helpu i glirio unrhyw rent sy’n ddyledus, a lleihau’r tebygolrwydd o gael eich troi allan o’ch cartref.
Ni fydd angen i chi dalu’r grant hwn yn ôl.I wneud cais am y grant, rhaid i chi fod:
- yn denant preswyl yng Nghymru
- wedi profi caledi ariannol oherwydd y pandemig COVID-19 gan olygu nad oeddech yn gallu talu eich rhent yn llawn
- wedi cronni o leiaf 8 wythnos o rent dyledus rhwng 1 Mawrth 2020 a 31 Rhagfyr 2021
- heb dderbyn unrhyw fudd-daliadau tai pan wnaethoch chi gronni’r dyledion rhent.Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais ar gael yma:
Cael cymorth arall
Os oes gennych ddyledion rhent, dylech wneud y canlynol:
Efallai y byddwch yn gallu cael cymorth ariannol drwy Daliadau Disgresiwn at Gostau Tai i dalu dyledion rhent, neu gymorth arall i dalu biliau eraill y cartref.
Cyngor ar Bopeth – 0808 278 7920
Shelter Cymru – 08000 495 495