Tocynnau am ddim ar gael ar gyfer dau ddigwyddiad cynhwysiant ariannol yng Nghymru
Mae'n bleser gan Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru gyhoeddi digwyddiadau rhad ac am ddim yng Nghaerdydd a Llandudno ar 'Y Dirwedd Ôl-Covid a'r Argyfwng Costau Byw.'
Mehefin 14, 2022
Ar ôl cymaint o fisoedd o fethu â chyfarfod wyneb yn wyneb, bydd y cynadleddau sydd i ddod yn archwilio Tirwedd Ôl-Covid Cymru.
Cynhelir y digwyddiadau yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ar 23 Mehefin 2022 ac yn Venue Cymru Llandudno ar 8 Medi 2022, a byddant yn cynnwys siaradwyr o MaPS, Cyngor ar Bopeth, Undebau Credyd Cymru a’r tîm Sgamiau Safonau Masnach.
Trefnir y digwyddiadau gan SRS, sy’n cynnal tîm ymchwiliadau a diogelu mawr sy’n delio’n benodol â thwyll ariannol neu gymhleth yn ymwneud â sgamiau marchnata torfol a throseddau carreg drws. Mae hefyd yn gartref i Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru ar ran Llywodraeth y DU. Mae diogelu pobl agored i niwed yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar draws y tri awdurdod lleol.
Bydd mynychwyr yn elwa o ddadansoddiad manwl o siaradwyr arbenigol, a hefyd yn cael y cyfle i greu partneriaid rhwydwaith newydd dros ginio.
Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad Caerdydd yma.
Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad Llandudno yma.