Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Prif gyflenwad dŵr wedi byrstio yng Nghaerdydd yn debygol o effeithio ar gyflenwad dŵr

Mae Dŵr Cymru Welsh Water wedi dweud bod prif gyflenwad dŵr wedi byrstio yn ardaloedd Trelái / Caerau yng Nghaerdydd sy'n debygol o effeithio ar y cyflenwad dŵr i lawer o eiddo yn yr ardal tan yn ddiweddarach y prynhawn yma (Mai 11eg).

Mai 11, 2023

Rydym wedi cael gwybod bod nifer o dai wedi cael eu heffeithio a bydd rhai ysgolion yn cael eu cau. Roeddent yn cynnwys; Plasmawr, Mary Immaculate, Windsor Clive, Ysgol Gynradd y Tyllgoed, Pentre-baen, Sant Ffransis a Danescourt.

Ewch i https://orlo.uk/iu2SS am ddiweddariadau.

Bydd yn ofynnol i unrhyw fusnesau bwyd heb ddŵr roi'r gorau i drin bwydydd agored tra nad oes cyflenwad dŵr. Mae hyn oherwydd yr anallu i gynnal rheolaethau diogelwch bwyd yn effeithiol a chydymffurfio â chyfreithiau hylendid.Gall y busnesau bwyd hynny sy'n gwerthu bwyd wedi'i becynnu barhau i fasnachu cyhyd â bod hylif diheintio dwylo yn cael ei ddefnyddio yn lle'r defnydd o ddŵr a sebonWater pipe Cardiff May 23. Gellir gweld diweddariadau ar y sefyllfa yma.

Mae'r ardaloedd yr effeithir arnynt wedi'u nodi yn y ddelwedd ar y dde.

Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion ynghylch yr amhariad ar y cyflenwad at Dŵr Cymru Welsh Water ar 0800 085 3968. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau mewn perthynas â darparu dŵr yn barhaus i bobl agored i niwed neu a all busnes bwyd barhau i weithredu at Gyngor Bro Morgannwg: 0300 123 6696.