Pàs COVID - yr hyn y mae angen i chi ei wybod
O ddydd Llun 11 Hydref ymlaen, bydd yn rhaid i bobl sy’n mynd i ddigwyddiadau mawr a chlybiau nos (neu fangreoedd tebyg) brofi eu bod naill ai wedi’u brechu’n llawn neu wedi cael prawf llif unffordd (LFT) negatif yn y 48 awr ddiwethaf neu wedi cael canlyniad positif i brawf PCR a gymerir gan y person ddim mwy na 180 o ddiwrnodau a ddim llai na 10 niwrnod o flaen llaw.
Mae’r gofynion hyn a ddylai fod yn rhan o asesiad risg pwrpasol a bod yn un o’r mesurau rhesymol y mae gofyn ei roi ar waith, yn gymwys mewn perthynas â rhai mangreoedd a lleoliadau penodol (gweler isod). Caiff y darpariaethau penodol eu hamlinellu yn rheoliad 16A.
Mae’n bwysig nodi bod y gofyniad newydd hwn i wirio tystiolaeth yn rhan o gyfres o fesurau rhesymol a ddylai gael eu gweithredu’n gyffredinol yn ddibynnol ar y camau a nodir fel rhan o’r asesiad risg pwrpasol. Nid yw’n dileu’r angen i ystyried a gweithredu mesurau eraill.
Dylai’r asesiad risg pwrpasol hefyd amlinellu’r rhesymeg a’r cyfiawnhad dros sut y mae pob busnes a lleoliad wedi dewis gweithredu’r gofyniad hwn, a fydd fel arfer yn golygu bod unigolion sy’n dymuno mynychu neu gael mynediad yn gorfod dangos pàs COVID. Bydd yr hyn a ystyrir yn rhesymol o ran mesurau gwirio yn amrywio ar wahanol adegau ac ar gyfer gwahanol leoliadau gan ddibynnu ar nifer o amgylchiadau, gan gynnwys y capasiti a threfniadau mynediad.
Efallai y ceir rhai amgylchiadau lle y byddai gwirio statws pawb sy’n cael mynediad i fangre benodol yn arwain at giwiau mawr a phobl yn ymgynnull, ond mewn mangreoedd eraill, bydd ganddynt eisoes weithdrefnau yn eu lle ar gyfer gwirio drwy system giwio, lle y byddai hefyd yn rhesymol i wirio a oes gan bob unigolyn bàs COVID dilys. Er enghraifft, mae’n arferol i glybiau nos reoli niferoedd drwy gael ciw y tu allan i fangre, a'r disgwyliad yw y byddant yn gwirio statws pob person sy’n dymuno cael mynediad.
Ond gallai gwirio pàs pob person sy’n mynd i gêm rygbi neu gêm bêl-droed fawr arwain at broblemau diogelwch a chiwiau mwy nag arfer. Byddem yn disgwyl y byddai clwb nos, er enghraifft, yn gallu gwirio pasys COVID pawb sy’n cael mynediad i’r lleoliad.
Bydd angen i bob lleoliad gynnal asesiad risg er mwyn sicrhau ei fod yn gallu cyfiawnhau beth y mae’n ystyried yn fesur rhesymol yng nghyd-destun gwirio, gan ystyried ei ddyletswyddau statudol eraill, er enghraifft iechyd a diogelwch ei gwsmeriaid, materion ehangach o ran trefn gyhoeddus a risgiau terfysgaeth posibl.