Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dyma lle'r ydych chi:

Dedfryd ohiriedig ar gyfer masnachwr twyllodrus 

Mae töwr a gamarweiniodd gwsmeriaid, ac a dderbyniodd filoedd o bunnoedd heb gwblhau neu wneud gwaith, wedi pledio'n euog i dwyllo. 

Medi 9fed, 2020

Trading as RG Roofing, Robert Gooch from Brackla was charged with one count of fraud under the Fraud Act 2006 and six counts ofRoofer engr Dedfryd ohiriedig ar gyfer masnachwr twyllodrus 

Gan fasnachu o dan yr enw RG Roofing, cafodd Robert Gooch o Fracla ei gyhuddo o un achos o dwyllo o dan Ddeddf Twyll 2006 a chwe achos o ymgymryd ag arferion masnachol camarweiniol o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. 

Plediodd yn euog i'r holl gyhuddiadau yn Llys y Goron, Merthyr Tudful, ar 7 Medi 2020. 

O dan yr achos o dwyll, clywodd y llys fod wyth cwyn ar wahân wedi'u gwneud yn erbyn Mr Gooch rhwng 2013 a 2018 ar ôl iddo dderbyn blaendaliadau sylweddol ar gyfer gwaith na chafodd ei gwblhau neu ei ddechrau. Dioddefodd un adeilad lifogydd o ganlyniad i'r gwaith anorffenedig. 

Cafodd chwe chwyn arall eu gwneud ar gyfer arferion masnachol camarweiniol a ddigwyddodd yn ardal Abertawe, lle derbyniodd Mr Gooch gyfanswm gwerth £16,784 mewn blaendaliadau ar gyfer gwaith na chafodd ei gwblhau neu ei ddechrau. 

Ar ôl pledio'n euog i'r holl achosion, cafodd Mr Gooch ei ddedfrydu i 24 mis o garchar, sydd wedi'u gohirio am 24 mis pellach. Gorchmynnwyd iddo hefyd gwblhau cwrs adfer deg diwrnod ac i gwblhau 100 awr o waith di-dâl.

Dywedodd y Cynghorydd Dhanisha Patel, sy'n aelod o'r Cyd-bwyllgor ar gyfer Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir: “Mae canlyniad yr achos hwn yn anfon neges glir na fydd arferion masnachol twyllodrus a chamarweiniol, sy'n arwain at dwyllo trigolion o'u harian, yn cael eu goddef. 

“Wrth i ni nesáu at gyfnod yr hydref a'r gaeaf, mae angen i drigolion barhau i fod yn arbennig o wyliadwrus. Roedd yr achos hwn yn cwmpasu digwyddiadau a ddigwyddodd dros ardal eang, ac rwy'n ddiolchgar i'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir a'n partneriaid am ei ddwyn i derfyn priodol.” 

Gall trigolion gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i Ddefnyddwyr ar 0808 223 1144 er mwyn nodi cwynion, y byddant wedyn ar gael i'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir eu hasesu.