Rheoli Plâu Cyngor Bro Morgannwg
Darparu gwasanaeth cynhwysfawr rheoli plâu i drigolion Bro Morgannwg ac anelu at ymateb i geisiadau am wasanaeth o fewn 5 diwrnod gwaith.
- Darparu gwasanaeth am ddim i blâu fel llygod mawr (y tu mewn), llygod, pỳcs a chwilod duon mewn cartrefi
- Darparu triniaethau cost-effeithiol yn achos cartrefi gyda llygod mawr (y tu allan) a phlâu eraill
- Darparu amcangyfrif costau rhesymol a chystadleuol ar gyfer gwasanaeth rheoli plâu ar safleoedd masnachol
- Ymgymryd â chynllun baetio carthffosydd i drin llygod mawr mewn partneriaeth â’r Awdurdod Dŵr
Rydyn ni hefyd yn darparu gwasanaeth adnabod ar gyfer plâu pryfed, ac yn cynnig cyngor ar eu rheoli. Bydd angen i chi anfon sampl aton ni neu ddod ag un i mewn i’r Swyddfeydd Dinesig mewn cynhwysydd diogel.
Os ydych yn postio’r pryfyn, defnyddiwch gynhwysydd cadarn, diogel, a chofiwch y dylai fod y pryfed wedi marw. O dan amgylchiadau arbennig, efallai bydd yn bosibl i ni adnabod plâu yn eich cartref.
Rhestr ffioedd a thaliadau
Cyngor ac Arweiniad
Dydyn ni ddim yn trin y plâu cartref/gardd cyffredin isod, ond gallwn gynnig gwybodaeth amdanynt a chyngor ar y ffordd i’w trin:
- Sguthanod
- Gwenyn
- Gwylanod
- Gwiwerod
- Psosidiaid
- Morgrug
- Llwynogod / cadnoid
- Mosgitos
Dwedu wrthon ni: Problem Plâu
I ddweud wrthon ni am broblem â phla ym Mro Morgannwg, cysylltwch â’r Tîm Rheoli Plâu:
- Cysylltu â Ni
- Cyngor Bro Morgannwg, Swyddfeydd Dinesig, Heol Holton, Y Barri, CF63 4RU